Adam Price yn dychwelyd i’r Senedd ar ôl genedigaeth ei ferch fach
13/09/2021
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn dychwelyd i’r gwaith yn y Senedd ddydd Llun yn dilyn ei gyfnod tadolaeth.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, cyflwynodd ei ferch fach, Senena.
Rhannodd lun ohono yn magu ei ferch.
Dywedodd: “Balch iawn i ddychwelyd i'r gwaith ac i'r Senedd gydag egni newydd heddiw ar ôl bod ar gyfnod tadolaeth. Ac yn falchach byth o allu cyflwyno'n merch fach hyfryd, Senena i'r byd.”
Bydd rhai o bwyllgorau’r Senedd yn cwrdd am y tro cyntaf yn nhymor yr hydref o ddydd Llun.