Fandaliaeth parc poblogaidd yng Nghaerdydd ‘yn waeth na’r disgwyl’
Mae'r difrod a wnaed i un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd "yn waeth na'r disgwyl", yn ôl perchennog busnes lleol.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, dywedodd Melissa Boothman, perchennog caffi’r Secret Garden ym Mharc Biwt fod y difrod “lawer yn waeth nag oeddwn yn meddwl”.
Ychwanegodd: “Mae’n eithaf tywyll, mae’n eithaf sinistr. Mae’n teimlo fel ymosodiad ar galon Caerdydd, calon werdd Caerdydd sef y parc – parc y bobl".
Ddydd Gwener, dywedodd Cyngor Caerdydd bod fandaliaeth gwerth "miloedd o bunnoedd" wedi digwydd yn y parc dros nos.
Yn ôl Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon ar Gyngor Caerdydd, roedd yn “ddifrod troseddol sylweddol” gyda mwy na 50 o goed wedi eu dinistrio a nifer o finiau wedi eu rhwygo o’r concrit.
Dywedodd: “Mae gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod wedi’i wneud yr holl ffordd o Bont y Gored Ddu i Ystafelloedd Te Pettigrew.
“Rwy’n condemnio’r ymddygiad hwn yn llwyr. Nid yw hyn yn dderbyniol".
Ond, mae’n debyg bod y difrod yn waeth na’r hyn a gafodd ei adrodd yn y lle cyntaf.
Dywedodd Melissa Boothman bod hen goed derw wedi eu llifio, coed sydd wedi eu plannu er cof am bobl wedi eu dinistrio, tyllau wedi eu llenwi â cherrig a difrod i wifrau rhyngrwyd.
Cafodd arwyddion, planhigion a choed y caffi eu dinistrio hefyd.
Ychwanegodd perchennog y caffi bod y parc yn le arbennig: “Yn ystod Covid, mae wedi bod yn hafan lle oedd pobl Caerdydd yn gallu dianc, yn le lle’r oeddem ni i gyd yn teimlo’n ddiogel".
Mae Ms Boothman yn apelio am syniadau a chymorth gan bobl i drwsio’r difrod ac adfer y parc.
Dywedodd Heddlu De Cymru ddydd Sul eu bod yn “ymchwilio’n drylwyr” i’r digwyddiad ym Mharc Biwt a’u bod yn apelio am unrhyw wybodaeth.