Disgwyl i gyn brif weithredwr yr SNP gael ei ddedfrydu am ddwyn arian y blaid
Mae disgwyl i gyn brif weithredwr yr SNP, Peter Murrell, gael ei ddedfrydu ddydd Mawrth ar ôl iddo gyfaddef iddo ddwyn mwy na £400,000 oddi wrth y blaid.
Fe wnaeth Murrell gyfaddef y cyhuddiadau o embeslu (embezzle) yr arian pan ymddangosodd yn y llys fis diwethaf.
Roedd wedi dwyn cyfanswm o £400,310.65 dros gyfnod o 12 mlynedd rhwng Awst 2010 a Hydref 2022.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd, ac mae disgwyl iddo gyrraedd yr Uchel Lys yng Nghaeredin yng nghefn fan carchar i gael ei ddedfrydu gan y barnwr yr Arglwydd Young.
Daeth troseddau Murrell i’r amlwg ar ôl i’r heddlu ddechrau derbyn cwynion am gamreolaeth bosib o gyllid yr SNP ym mis Mawrth 2021.
Arweiniodd hynny at ymchwiliad, ac yn ystod yr ymchwiliad hwnnw fe ddaeth yr heddlu o hyd i dystiolaeth ei fod wedi dwyn yr arian.
Cafodd cyn-bennaeth y blaid ei arestio gyntaf ym mis Ebrill 2023 fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i gyllid yr SNP, ac fe gafodd ei gyhuddo ym mis Ebrill 2024.
Roedd y ditiad (indictment) yn cynnwys honiadau bod Murrell wedi defnyddio arian y blaid yn 2020 i brynu cartref modur gwerth £124,550 at ei ddefnydd personol ei hun.
Roedd yr eitemau eraill a brynodd gyda’r arian yn cynnwys llyfr o areithiau ei wraig, gêm gyfrifiadur Grand Theft Auto V, ac wyth ymbarél werth £1,990.50.
Roedd hefyd wedi prynu cartref moduro, ac fe gyfranodd yr arian at brynu dau gar.
Mae’n parhau yn ŵr i gyn-Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ond mae’r ddau wedi gwahanu.
Hyd nes iddo ymddiswyddo yn 2023 yn ystod y ras arweinyddiaeth i olynu Ms Sturgeon, roedd Murrell wedi bod yn brif weithredwr yr SNP am fwy nag 20 mlynedd.
Roedden nhw gynt yn un o’r cyplau mwyaf pwerus yng ngwleidyddiaeth y DU am flynyddoedd lawer.
Fe wnaeth Ms Sturgeon wasanaethu am fwy nag wyth mlynedd fel prif weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, tra roedd Mr Murrell yn brif weithredwr y blaid.
Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddodd Ms Sturgeon ei bod hi a Murrell wedi “penderfynu dod â’u priodas i ben”.
Cafodd Ms Sturgeon ei harestio a’i holi fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i gyllid yr SNP, ond fe gadarnhaodd Heddlu’r Alban na fyddai’n wynebu unrhyw gamau pellach.
Dywedodd cyn arweinydd yr SNP ei bod wedi cael ei “chlirio’n llwyr” ar ôl “ymchwiliad dwy flynedd o hyd, trylwyr iawn gan yr heddlu”.