Galw am ofal gyda disgwyl y diwrnod poethaf ym mis Mehefin ers dechrau cadw cofnodion

Plant yn nofio

Mae’r gwasanaethau brys yng Nghymru wedi galw ar bobl i gymryd gofal wrth i’r DU wynebu’r posibilrwydd mai dydd Mawrth fydd y diwrnod poethaf ym mis Mehefin ers dechrau cadw cofnodion.

Mae rhybudd oren ar gyfer tywydd poeth yn ei le ar gyfer de-ddwyrain Cymru a dwyrain y canolbarth.

Bydd y rhybudd oren yn cael ei ymestyn i bob sir yng Nghymru ddydd Mercher, gyda rhybudd coch am dywydd poeth yn ne-ddwyrain Cymru.

Fe allai’r tymheredd godi uwchlaw 35C mewn rhannau o’r DU ddydd Mawrth, gyda disgwyl 28C i 30C mewn sawl rhan o Gymru.

Bydd y lleithder hefyd yn cynyddu, gan wneud i’r tymheredd deimlo hyd at 5C yn gynhesach na’r darlleniad ar y thermomedr.

Y record bresennol ar gyfer tymheredd ym mis Mehefin yn y DU yw 35.6C, a gafodd ei gosod yn 1976.

Bydd y gwres yn parhau i gynyddu drwy ganol yr wythnos, gan gyrraedd 40C o bosibl — llai nag un radd Celsius yn is na’r darlleniad uchaf erioed yn y DU.

Mae’r gwasanaeth iechyd wedi galw ar bobl i osgoi’r haul rhwng 11.00 a 15.00, osgoi gorboethi wrth wneud ymarfer corff, gwisgo eli haul, ac yfed digon o ddiodydd di-alcohol.

Mae’r gwasanaethau tân ac achub wedi galw ar bobl i osgoi mynd i mewn i ddŵr agored, gan ddweud y gall sioc dŵr oer ladd.

“Peidiwch byth â mynd i mewn i ddŵr agored ar ôl yfed alcohol,” meddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

“Cadwch blant dan oruchwyliaeth ger dŵr bob amser, a gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro’r peryglon iddyn nhw.

“Gwnewch yn siŵr hefyd bod eich barbeciw ar dir gwastad ac ymhell o adeiladau, ffensys, coed a llwyni.”

Mae mam a gollodd ei mab pan foddodd bron i 20 mlynedd yn ôl yn rhybuddio pobl ifanc am beryglon nofio mewn dŵr oer.

Fe foddodd mab Maxine Johnson, Reuben, yn 2006 wrth fwynhau diwrnod yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ym Merthyr Tudful.

“Rydyn ni i gyd yn meddwl bod hyn yn rhywbeth sy’n digwydd i bobl eraill, ond dwi’n un o’r bobl eraill,” meddai.

“Byddwn i’n gofyn i rieni: ydych chi’n gwybod ble mae eich plant? Ydych chi’n gwybod a ydyn nhw’n bwriadu mynd i nofio?

“Roeddwn i’n gwybod ei fod e’n gwersylla, ond doeddwn i ddim wedi meddwl y byddai e yn mynd i’r gronfa ddŵr, oherwydd mae hynny’n beth mor beryglus i’w wneud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.