
9/11: Baich i’w deimlo o hyd ar y gymuned Fwslemaidd

9/11: Baich i’w deimlo o hyd ar y gymuned Fwslemaidd
Roedd effaith Medi'r unfed ar ddeg i'w deimlo ymysg Mwslemiaid ar draws y byd.
Gydag Islamoffobia ar gynnydd ers yr ymosodiadau mae dwy fenyw o Gaerdydd wedi siarad gyda rhaglen Newyddion S4C am yr hiliaeth mae nhw a'u teuluoedd wedi ei ddioddef.
"Dwi wastad yn teimlo fel person oedd ond yn tair blwydd oed pan nath 9/11 ddigwydd - ond ma' rhaid i fi ymddiheuro," meddai Aleena Khan.
Yn dod o deulu Pacistanaidd, ac wedi'i magu yng Nghaerdydd, mae Aleena wedi profi hiliaeth ers iddi fod yn ferch fach.
Mae'n dweud bod pobol hefyd yn trin ei mam yn wahanol.

"Ma' fy mam yn gwisgo ei hijab neu ei sgarff, mae'n gwisgo ei gwisg draddodiadol Pacistanaidd.
"Mae'n fwy amlwg ei bod hi'n Bacistanaidd sydd i rai yn stereoteip o bobl sy'n agos at derfysgaeth.
"Dwi wastad yn teimlo bo fi wedi gweld hi'n cael ei thargedu, bod pobl yn edrych arni hi mewn ffordd 'rude', neu os mae'n ceisio gofyn cwestiynau ma' nhw'n 'ignoreio' hi."
Mae Laura Jones o Gaerdydd hefyd wedi profi hiliaeth o ganlyniad i'r ymosodiadau 20 mlynedd yn ôl.
Yn ôl Laura Jones roedd effaith 9/11 i'w deimlo yn syth ymysg ei chymuned yng Nghaerdydd.
"O nhw'n teimlo'n ofnus ar ôl 9/11, o'n i'n teimlo'n ofnus i weddïo mewn llefydd cyhoeddus er enghraifft.
"Roedd y gymuned ehangach yn disgwyl i'r gymuned Fwslimaidd ymddiheuro am 9/11, ac roedd y gymuned Fwslimaidd yn teimlo fel bod y bai arnyn nhw i gyd."
Ar Fedi'r unfed ar ddeg eleni, bydd miliynau o Fwslemiaid yn ymuno a gweddill y byd i gofio erchyllterau'r diwrnod hwnnw.