Newyddion S4C

‘Teimlad arbennig’ i gyrraedd tîm cŵn defaid Cymru yn 90 oed

11/09/2021

‘Teimlad arbennig’ i gyrraedd tîm cŵn defaid Cymru yn 90 oed

Wedi blwyddyn go anodd, rhwng dal Covid-19 a threulio cyfnod mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty, mae un gŵr o Geredigion wedi llwyddo i gyflawni camp arbennig.

Bydd Idris Morgan yn cystadlu'r penwythnos hwn yn rhan o dîm Cymru yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol, gyda’i gi, Pwtyn.

Y tro diwethaf iddo gyrraedd tîm Cymru yn y treialon oedd 25 o flynyddoedd yn ôl.

Ag yntau yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ddydd Sadwrn, doedd Idris byth yn meddwl y byddai’n llwyddo i gyflawni’r gamp unwaith eto ar garreg filltir mor arbennig.

Image
Idris Morgan
Roedd hi'n 'deimlad arbennig' pan glywodd Idris y newyddion ei fod wedi llwyddo i gyrraedd tîm Cymru gyda Pwtyn.

“Os gai run go lew, fyddai’n berffaith hapus. Fydd e wedi gwneud fy mhen-blwydd i, fyddai wedi gwneud be fyddai wedi amcanu ei wneud,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Dwi ddim yn meddwl ennill yr international o gwbl de. Dydi hynny ddim wedi croesi’n meddwl i. Dwi wedi mynd yn rhy hen i wneud hynny.

“Ond fydd hi’n fraint cael cystadlu, a mi wnai’n orau. Mi wnai mor belled a gallai fynd, a dwi mond gobeithio na fyddai’m yn gadael y tîm lawr. A dwi’m yn golygu gwneud hynny os gallai beidio.”

Mae’r treialon yn cael eu cynnal yn Aberystwyth eleni, ddim yn bell o gartref genedigol Idris, Trefenter, gyda thimoedd Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon yn mynd benben â’i gilydd.

Mae sawl un o’r byd cŵn defaid yn credu mai Idris yw’r hynaf, nid yn unig i gyrraedd tîm Cymru, ond i gyrraedd unrhyw dîm cenedlaethol drwy Brydain erioed.

Image
Idris Morgan
Mae Idris wedi cystadlu mewn treialon cŵn defaid ar hyd ei oes.

Serch hynny, nid dyma’r unig gamp hanesyddol i Idris ei chyflawni.

Yn ddim ond pump oed, fe lwyddodd i ennill ei dreialon cŵn defaid cyntaf erioed yn Nolgellau ym 1937, a hynny’n erbyn cystadleuwyr eraill oedd deirgwaith ei oedran.

‘Cymeriad a hanner’

Rhwng dal Covid-19 a threulio cyfnod yn yr ysbyty, mae un ci bach wedi bod gyda Idris drwy’r cyfan dros y flwyddyn ddiwethaf.

Image
Idris Morgan
Idris a'i gi, Pwtyn.

“Ma’ Pwtyn a fi yn go agos i’n gilydd, ynden. Bob man dwi’n mynd, mae yntau gyda mi. Erioed wedi ymadael â’n gilydd.

“Fues i yn yr intensive care am 10 diwrnod. Pan o’n i heb y ci, y 'nghariad bach, oedd part mawr ohonoch chi ar goll.

“O chi’n ddigon tost rhai diwrnode i anghofio nhw de. O chi rhy wael i feddwl amdanyn nhw. Ond nhw odd yn dod i’n meddwl i gynta de.

“Odd [y teulu] yn ffonio mewn atai, o’n i’n gofyn am Pwtyn, bob dydd.”

‘Gwên fawr’

Er gwaethaf popeth, mae un peth yn bwysicach na dim i Idris.

“Dwi wedi mwynhau bywyd, popeth o’n i’n gwneud, o’n i’n cael rhyw sbort o bopeth.

Pack up your troubles in your old kit bag, medde’r hen soldiwrs yn y rhyfel.

Pack up your troubles in your old kit bag and smile, smile, smile.

“Gobeithio alla' i roi gwên fawr, pan fyddai’n ffarwelio â’r hen fyd 'ma.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.