Starmer yn croesawu Zelensky, Macron a Merz i drafodaethau yn Rhif 10
Mae Syr Keir Starmer wedi croesawu Volodymyr Zelensky, Emmanuel Macron a Friedrich Merz i Rif 10 Downing Street nos Sul i drafod cefnogaeth barhaus gwledydd Ewrop ar gyfer Wcráin.
Mae arweinydd Wcráin yn ymweld â'r Deyrnas Unedig gydag Arlywydd Ffrainc a Changhellor yr Almaen ar ôl i’r anghydfod rhwng Wcráin a Rwsia ddwysáu dros y dyddiau diwethaf.
Ar ôl cyrraedd dywedodd Mr Zelensky mai prif ffocws sgyrsiau'r arweinwyr fyddai "ein hamddiffyniad yn y rhyfel, mwy o gydweithrediad er diogelwch Ewrop gyfan ym maes amddiffyn awyr, a'n barn gyffredin o ragolygon diplomyddol".
"Rhaid i Ewrop fod yn rhan o'r trafodaethau a rhaid iddi fod yn gryf," meddai.
Mae Vladimir Putin hefyd wedi gwrthod cynnig Arlywydd Zelensky i gynnal trafodaethau wyneb yn wyneb am y rhyfel.
Fe daniodd lluoedd Wcráin dronau at St Petersburg, ail ddinas fwyaf Rwsia, ddydd Sadwrn.
Yn Wcráin, cafodd un person ei ladd a thri eu hanafu yn rhanbarth Dnipropetrovsk wrth i luoedd Rwsia daro tair ardal bron i 30 o weithiau gyda dronau yn ôl awdurdodau yn y wlad.
