Adaregwyr yn heidio i Gaernarfon i weld aderyn prin

Adaregwyr yn heidio i Gaernarfon i weld aderyn prin

Mae adaregwyr ar draws y DU wedi heidio i dref yng Ngwynedd dros y penwythnos i weld aderyn prin.

Fe ddaeth degau o bobl i Gaernarfon i weld a chofnodi’r crëyr riff gorllewinol (western reef heron) wrth Cei Llechi.

Y gred yw mai dyma’r tro cyntaf i'r aderyn gael ei weld yn y DU.

Fel arfer cynefin yr aderyn yw ardaloedd arfordirol yn Ne Ewrop, Affrica a rhannau o Asia.

Fe fydd pwyllgor arbenigol yn dilysu a chadarnhau os mai dyma’r tro cyntaf i’r aderyn gael ei weld yn y DU.

Ymhlith yr adaregwyr yn Cei Llechi ddydd Sul oedd Malcolm Bee o Gaernarfon.

"O’n i ‘di clywed bod ’na deryn bach diarth ‘di dod yma o West Africa," meddai wrth Newyddion S4C.

"‘Dio ’rioed ‘di bod yn y wlad yma o’r blaen, hwn ‘di’r gynta’ sy’ ‘di bod yn y wlad - ag enw fo ydi western reef heron."

Dywedodd Mr Bee fod yr aderyn wedi bod yn y dref ers dros wythnos.

"Ma’ ‘di cael ei weld yn Y Foryd i ddechrau a mae ‘na lot o twitchers lleol yn mynd i Foryd bob dydd," meddai.

"So, fela mae o ‘di cael ei ffeindio, a wedyn mae o wedi dod i dre."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.