‘Anfoesol a brawychus’: Ffilmio cudd yn canfod cynnyrch lliw haul ‘peryglus’ ar werth mewn salons yng Nghymru
‘Anfoesol a brawychus’: Ffilmio cudd yn canfod cynnyrch lliw haul ‘peryglus’ ar werth mewn salons yng Nghymru
Mae ymchwiliad camera cudd wedi canfod cynnyrch lliw haul heb eu trwyddedu na’u rheoleiddio yn cael eu gwerthu mewn salons yng Nghymru.
Yn ôl un arbenigwr, mae’r canfyddiadau yn “warthus ac yn frawychus”, gan alw’r gwerthwyr yn “anfoesol”.
Wrth ffilmio’n gudd, roedd modd i ohebydd Y Byd ar Bedwar, Nest Jenkins, brynu chwistrellau trwyn a phigiadau sy’n honni i dywyllu’r croen.
Mae’r cynnyrch fel arfer yn cynnwys yr hormon Melanotan 2, sydd heb ei gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac sy’n anghyfreithlon fel meddyginiaeth.
Dywedodd un gwerthwr mewn salon ar y stryd fawr nad oedd hi’n hysbysebu’r cynnyrch yn agored “am eu bod yn anghyfreithlon, y nasal sprays, ie".
Er hyn, gwerthodd botel o chwistrelliad trwyn am £30 mewn llai na phum munud i’r newyddiadurwr.
Fe gyfaddefodd gwerthwr arall fod “dim cliw” ganddi beth oedd yn y cynnyrch, ond eu bod yn “boblogaidd iawn”. Gwerthodd botel am £25.
Y salon nesaf oedd Euphoria Tanning yng Nghwmbrân sydd wedi cael dirwy yn y gorffennol am dorri’r rheolau. Roedd modd prynu pigiadau tanio, yn ogystal â chwistrellau trwyn.
Wrth ofyn am y risgiau, dywedodd y gwerthwr eu bod yn hollol iawn i’w defnyddio gan fod y “merched i gyd yn eu defnyddio yma”, ac mai’r unig risg oedd “y byddi di’n tanned”.
Mae rhybuddion fod y cynnyrch yn gallu arwain at broblemau iechyd hirdymor, gan gynnwys niwed i’r arennau a risg o gysylltiad posib gyda chanser y croen.
Yn ôl Dr Megan Samuel, sy’n llawfeddyg ag arbenigedd mewn triniaethau cosmetig, mae’r canfyddiadau yn “codi ofn arna i".
“Fi’n meddwl bod e’n anfoesol iddyn nhw fod yn gwerthu rhywbeth fel hyn heb wybod beth sydd ynddo fe," meddai.
“Mae cyfrifoldeb ar y bobl sy’n gwerthu’r nwyddau yma i egluro’r risgs, beth sydd ynddyn nhw a beth sy’n gallu mynd yn anghywir.
"Dy’n nhw ddim yn siarad am unrhyw beth fel hyn. Mae’n warthus ac yn siomedig i weld.”
Fe gysylltodd Y Byd ar Bedwar gyda’r tri gwerthwr am sylw, ond chafwyd dim ymateb.
'Jyst isho bod yn skinny ac yn frown'
Er y rhybuddion, mae rhai yn barod i ddilyn y trend tywyll i gael tan.
Fe ddechreuodd Cara-Jay Williams o Sir Fôn gymryd pigiadau lliw haul bum mlynedd yn ôl, ond bellach wedi symud i ddefnyddio’r chwistrellau trwyn.
“Dwi isho teimlo yn dda, a skinny ac yn frown,” meddai’r model 29 oed.
Mae’n dweud fod modd eu prynu ar-lein, mewn siopau lliw haul ac yn y gampfa, a’u bod yn “easily accessible”.
Wrth ei holi am beth mae’n credu sydd yn y cynnyrch, mae’n dweud nad yw’n gwybod o gwbwl.
“Dwi’n meddwl dwi jyst ddim yn gofyn cwestiynau achos os ydw i’n gallu prynu hwn mewn siop, wedyn fe ddylai’r cynnyrch fod yn iawn.
“Mae fy ffrindiau arnyn nhw, ac maen nhw i gyd yn fine.”
Yn ôl adran Fusnes a Masnach Llywodraeth y Deyrnas Unedig, “fe ddylai unrhyw un sy’n gwerthu chwistrellau trwyn lliw haul, gan gynnwys arlein, ofalu eu bod yn saff cyn eu rhoi ar y farchnad.
“Os bod gan unrhyw un bryderon am y cynnyrch, ry’n ni’n eu hannog i gysylltu gyda Chyngor ar Bopeth neu Safonau Masnach.”
Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr MHRA, sef yr asiantaeth sy’n rheoleiddio meddyginiaethau yn y Deyrnas Unedig, fod “pigiadau sy’n cynnwys Melanotan 2 yn cael eu hystyried fel meddyginiaeth.
“Nid oes unrhyw gynhyrchion meddyginiaethol sy'n cynnwys Melanotan 2 wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio yn y Deyrnas Unedig.”
Maen nhw’n dweud y bydd cynnyrch fel hyn yn “torri’r Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (HMRs) a bydd camau rheoleiddio priodol yn cael eu cymryd i atal y cynhyrchion hyn rhag cael eu gwerthu.”
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Lliw haul, y trend tywyll, ar Youtube S4C, S4C Clic a BBC iPlayer
