Timau E-Chwaraeon: Ysbrydoli plant i ddilyn gyrfa yn niwydiant gemau

Timau E-Chwaraeon: Ysbrydoli plant i ddilyn gyrfa yn niwydiant gemau
Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Croes Atti yn Sir y Fflint wedi bod yn brysur yn cymryd rhan mewn Timau E-Chwaraeon, sydd yn rhan o ymgyrch newydd i annog mwy o blant i chwarae gemau’n broffesiynol.
Nod y gystadleuaeth, E-Chwaraeon Cenedlaethol – sef chwarae gemau cyfrifiadurol yn gystadleuol, yw galluogi plant ysgol gynradd i ddysgu sgiliau newydd ac i’w hysbrydoli i ddilyn gyfra yn niwydiant gemau.
Daw’r prosiect gan Nintendo UK ac Outright Games, ynghyd â Digital School House, er mwyn darparu adnoddau i alluogi ysgolion ddysgu sgiliau digidol allweddol drwy chwarae gemau.
Ysgol Croes Atti yw’r ysgol gyntaf i fod yn rhan o’r twrnament.
Yn ôl yr athro Ben Elias, mae o wedi bod yn gyfle “anhygoel”.
“’Da ni’n teimlo’n ffodus iawn,” dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.
“Mae’r plant wedi cael modd i fyw bore ‘ma. Mae nhw wedi dysgu pop math o sgiliau heb iddyn nhw sylweddoli o gwbl.
“’Da ni wedi treulio oriau wrth hi y bore ‘ma a ‘di dim un ohonyn nhw wedi sylweddoli fod amser wedi pasio.”
Roedd un disgybl o flwyddyn chwech yr ysgol yn cytuno.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn andros o hwyl chwarae gyda fy ffrindiau i.
“Dwi eisiau gwneud mwy o Mario Kart!”
Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu bod 65% o blant, oedd yn rhan o’r cynllun peilot y llynedd, yn cysylltu’r gwersi yma gyda datblygu sgiliau, fel gweithio mewn tîm.
Roedd 55% o athrawon yn gweld cynnydd yn lefelau cyrhaeddiad y disgyblion, gyda 91% o athrawon yn dweud bod eu disgyblion gyda diddordeb mawr gweithio o fewn y byd gemau.
“Mae’n holl bwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i allu gwirioneddol cael profiad o weithio,” eglurodd Estelle Ashman o Digital School House.
“Yn aml, rydym yn siarad am ysgrifennu am yrfaoedd ond ddim yn cael y cyfle i allu gwirioneddol dysgu ohono oherwydd bod nhw ddim yn cael profiad uniongyrchol ohono.”