Llywodraeth Starmer heb 'gynllun ystyrlon' medd Tony Blair

Tony Blair

Mae Tony Blair wedi dweud nad oes gan Lywodraeth Syr Keir Starmer "gynllun ystyrlon" a'u bod yn "chwarae gyda dyfodol y wlad".

Mewn traethawd 5,700 o eiriau mae Blair yn dweud bod angen "ailosod" yr agenda llai na dwy flynedd ers i'r blaid Lafur ddod i rym yn San Steffan.

Mae'n dweud hefyd bod y llywodraeth wedi cyflwyno polisïau sydd wedi dal busnesau yn ôl.

Ond yn y ddogfen mae'n rhybuddio yn erbyn disodli Keir Starmer heb gynnal dadl newydd ynglŷn â pholisïau.

Doedd Stryd Downing ddim eisiau ymateb i'r traethawd ond maen nhw wedi dweud fod Syr Keir wedi "ymrwymo yn llwyr i gyflawni newid i bobl sy'n gweithio".

Dyma'r tro cyntaf i Tony Blair feirniadu mewn manylder Llywodraeth y DU.

Yn ôl Blair, oedd yn Brif Weinidog rhwng 1997 a 2007, mae Llafur wedi atal twf ers ennill yr etholiad. 

'Personoliaeth Keir' ddim y brif broblem 

Mae'n cyfeirio at bolisïau fel y cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr, y bil hawliau gweithwyr a’r cynnydd yn yr isafswm cyflog.

Yn y traethawd mae hefyd yn feirniadol o wariant y llywodraeth ar fudd-daliadau. Ond mae'n dweud ei fod yn cytuno gyda rhai polisïau’r llywodraeth fel diwygio’r broses gynllunio a buddsoddi mewn isadeiledd. 

Dim prif broblem Llywodraeth y DU yw "personoliaeth Keir" na "methiant i gyfathrebu'r hyn rydyn ni wedi cyflawni" meddai.

"Mae oherwydd nad oes gennym ni gynllun cydlynol, wedi’i lunio ar gyfer y wlad mewn byd sy’n newid yn gyflym ac rydym yn y sefyllfa wleidyddol anghywir i lunio un ac ennill ail dymor.”

Wrth drafod Brexit dywedodd y dylai Prydain rhywbryd gynnal dadl ynglŷn â'r posibilrwydd o ail ymuno a'r Undeb Ewropeaidd.

Ond ychwanegodd: "Doedd Brexit erioed yr ateb i heriau Prydain yn ôl yn 2016 ac nid ei wrthdroi yw'r ateb i sefyllfa llawer gwaeth y wlad yn 2026."

Mae cyn arweinydd y blaid yn dweud bod angen i Lafur fod y blaid "Radical canol" sydd yn rhoi "polisïau gyntaf a gwleidyddiaeth yn olaf". 

Daw sylwadau Blair mewn cyfnod anodd i Syr Keir Starmer. Mae o dan bwysau wedi canlyniadau trychinebus mewn etholiadau lleol a chenedlaethol ac ar ôl i bump gweinidog ymddiswyddo o'i gabinet. Y gred yw y bydd yna her i'w arweinyddiaeth yn y dyfodol. 

Llun: Victoria Jones/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.