Dr Andrew Goodall wedi ei benodi’n brif was sifil Llywodraeth Cymru
Mae enw prif was sifil newydd Llywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi, ac fe fydd yn wyneb cyfarwydd i nifer.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi mai Dr Andrew Goodall fydd yn camu i rôl yr Ysgrifennydd Parhaol.
Ers 2014, mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr GIG Cymru ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Fel rhan o’i rôl, mae wedi bod yn rhan o nifer o gynadleddau i’r wasg Llywodraeth Cymru yn ystod y 18 mis diwethaf gan ddod â’r manylion diweddaraf am y pandemig yng Nghymru.
Mae Dr Goodall olynu’r Fonesig Shan Morgan fel gwas sifil uchaf Llywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb dros 5,000 o staff.
Bydd hefyd yn brif ymgynghorydd polisi i'r Prif Weinidog.
Mae Ysgrifenyddion Parhaol yn cael eu penodi ar gontractau pum mlynedd wedi cystadleuaeth “agored a thrylwyr yn y gwasanaeth sifil”.
Dywedodd Dr Goodall: “Mae’n anrhydedd mawr cael ymgymryd â rôl yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff ar draws y gwasanaeth sifil a gweithlu sector cyhoeddus ehangach Cymru.
“Mae heriau mawr o’n blaenau ond rwy’n hyderus y gallwn fynd i’r afael â nhw drwy weithio gyda’n gilydd, ac adeiladu ar y seiliau y mae Shan wedi’u gosod yn ystod y pum mlynedd diwethaf”.