'Dim achos i'w ateb' gan gyn-athrawes rygbi wedi honiadau o ymddygiad annerbyniol

Lowri Mair Williams

Mae gwrandawiad disgyblu wedi dod i'r casgliad nad oes gan cyn-athrawes rygbi oedd yn wynebu honiadau o ymddygiad annerbyniol achos i'w ateb.

Roedd Lowri Mair Williams yn gyn-athrawes Addysg Gorfforol a Phennaeth Rygbi Merched yng Ngoleg Llanymddyfri. 

Fe ddechreuodd yn yr ysgol ar 1 Medi 2023, ac yn ystod ei hamser yno, fe gafodd pryderon eu codi am ei hymddygiad honedig yn ymwneud â digwyddiadau chwaraeon penodol.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Ar 6 Rhagfyr 2023, cafodd gêm rygbi ei chwarae gan dîm rygbi merched dan-18 yr ysgol yn Stadiwm Principality. Yn ystod y gêm, fe gafodd Disgybl A anaf ac ni wnaeth Ms Williams yn honedig ymateb yn ddigonol. 
  • Ar 25 Chwefror 2024, twrnament rygbi ym Mryste. 
  • Ar 12 Mawrth 2024, gêm bêl-rwyd a gafodd ei chwarae gan dîm pêl-rwyd dan-18 yr ysgol yn Aberhonddu.
  • Ar 17 a 17 Mawrth 2024, twrnament rygbi saith bob ochr yn Llundain, gyda thîm dan-16 yr ysgol yn mynychu. 

Yn dilyn y digwyddiad yn Llundain, fe wnaeth sawl disgybl fynychu Canolfan Feddygol yr ysgol. 

Fe arweiniodd hyn at yr ysgol yn dechrau ymchwiliad ar 19 Mawrth 2024 yn ymwneud â'r digwyddiadau hyn. 

Ar 21 Mawrth 2024, fe gafodd Ms Williams ei holi fel rhan o ymchwiliad yr ysgol, ac ar 16 Ebrill, ymddiswyddodd cyn cael ei chyfeirio at y Cyngor y Gweithlu Addysg.

Roedd yr ymchwiliad yn ymwneud ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol, gan gynnwys honiadau fod Ms Williams heb ddilyn protocol cyfergyd Undeb Rygbi Cymru, heb sicrhau bod staff y Coleg a/neu rieni'r disgyblion yn ymwybodol o'r anafiadau posibl ac wedi arddangos diffyg ystyriaeth ar ddiogelwch a/neu lles disgyblion.

Daeth ymchwiliad Cyngor y Gweithlu Addysg i'r casgliad ddydd Gwener nad oedd achos i'w ateb i'w ateb ar ran Ms Williams mewn perthynas ag unrhyw un o'r honiadau.

Ychwanegodd y Cyngor nad oedd unrhyw dystiolaeth ar gyfer rhai o'r honiadau. O ran yr honiadau eraill, dywedodd y Cyngor er fod yna ychydig o dystiolaeth, roedd mor denau nad oedd achos gan Ms Williams i'w ateb.

Dywed y Cyngor fod yr achos yn un heriol o ran tystiolaeth, ac fe wnaeth ystyried pob un o'r honiadau yn unigol.   

Llun: Lowri Mair Williams / Twitter.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.