Tensiynau wrth i Trump gynyddu'r pwysau ar Iran dros fynediad i Gulfor Hormuz

Culfor Hormuz

Mae tensiynau rhwng America ac Iran wedi cynyddu yn ystod y dyddiau diwethaf, er bod ymdrechion diplomyddol yn parhau i geisio osgoi gwrthdaro pellach.

Mae Arlywydd America, Donald Trump, wedi ymestyn y cadoediad dros dro gyda Iran, gan nodi ei fod am ganiatáu rhagor o amser ar gyfer trafodaethau. 

Fodd bynnag, mae ei weinyddiaeth hefyd wedi cynyddu eu safiad drwy weithredu yn fwy uniongyrchol, mewn ymateb i unrhyw weithgarwch milwrol yn y rhanbarth.

Yn y cyfamser, mae America wedi dwysáu ymdrechion i orfodi sancsiynau economaidd, gan gynnwys camau yn erbyn llongau sy’n cael eu hamau o gludo olew Iran. 

Mae hyn wedi arwain at ymateb gan Iran, sydd wedi rhybuddio y gallai gymryd camau pellach i amddiffyn eu buddiannau.

Mae Culfor Hormuz yn parhau’n ganolbwynt i’r tensiynau, gyda’r llwybr yn hanfodol ar gyfer cludiant olew byd-eang. Mae unrhyw darfu ar symudiadau yn yr ardal yn debygol o gael effaith sylweddol ar brisiau ynni a’r economi ryngwladol.

Er gwaethaf y sefyllfa, mae ymdrechion diplomyddol yn parhau, gyda rhai gwledydd yn ceisio gweithredu fel eiriolwyr a negydwyr (advocacy and mediators) rhwng y ddwy ochr. Ond mae diffyg ymddiriedaeth yn parhau’n rhwystr mawr i unrhyw ddatblygiad cadarnhaol.

Mae swyddogion Iran wedi gwrthod honiadau o wendid mewnol, gan bwysleisio undod y wlad, tra bod America yn parhau i bwysleisio’r angen am newid ymddygiad gan weinyddiaeth Islamaidd Tehran.

Gyda’r ddwy ochr yn parhau i gyfuno diplomyddiaeth â phwysau milwrol ac economaidd, mae’r sefyllfa’n parhau’n fregus, a’r risg o waethygu pellach yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.