Brwydr ar y sgrin: Pleidiau'n ymladd dros gefnogaeth pleidleiswyr
Mae'r prif bleidiau ar gyfer etholiad 2026 wedi wynebu’i gilydd mewn dadl fyw ar S4C nos Iau.
Bu arweinwyr a chynrychiolwyr y prif bleidiau yng Nghymru yn wynebu ei gilydd mewn dadl deledu fyw ar S4C nos Iau, gyda materion allweddol fel yr economi, y gwasanaeth iechyd, addysg a’r iaith Gymraeg ar flaen y drafodaeth.
Y gwleidyddion yn bresennol oedd:
-Y Ceidwadwyr - Paul Davies,
-Reform UK - Helen Jenner,
-Llafur - Eluned Morgan,
-Y Blaid Werdd - Tessa Marshall,
-Plaid Cymru - Rhun ap Iorwerth,
-Democratiaid Rhyddfrydol - Jane Dodds
Yn ystod y drafodaeth, pwysleisiodd Eluned Morgan ar ran y Blaid Lafur eu profiad o lywodraethu dros y degawdau diwethaf, gan nodi eu bod wedi darparu sefydlogrwydd mewn cyfnod heriol.
Fodd bynnag, roedd beirniadaeth gan bleidiau eraill, a honnodd fod perfformiad gwasanaethau cyhoeddus wedi dirywio o dan eu harweinyddiaeth.
Ar ran Plaid Cymru, fe nododd Rhun ap Iorwerth yr angen am newid cyfeiriad, gyda ffocws ar gryfhau economiau lleol a diogelu gwasanaethau cyhoeddus.
Dadleuwyd y dylai Cymru gael mwy o bwerau i wneud penderfyniadau annibynnol, yn enwedig ym meysydd cyllid a seilwaith.
Tynnodd cynrychiolydd y Ceidwadwyr, Paul Davies sylw at eu blaenoriaethau o ran rheoli cyllid yn ofalus a chefnogi busnesau, gan ddadlau mai twf economaidd yw’r allwedd i wella safonau byw. Fodd bynnag, cafwyd her gan bleidiau eraill ynghylch effaith polisïau’r llywodraeth ganolog ar Gymru.
Roedd y Blaid Werdd yn amlwg am flaenoriaethu materion fel newid hinsawdd, tryloywder mewn llywodraeth a’r angen i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth.
Prif neges Helen Jenner o blaid Reform oedd fod cyllidebau digonol eisoes yn bodoli mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond fon angen gwell craffu a newid blaenoriaethau o fewn gwasanaethau.
Ymhlith prif bwyntiau Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol, roedd safonau addysg, a gwella darpariaeth mewn ysgolion - yn cynnwys rhagor o gefnogaeth i athrawon yng Nghymru.
Roedd dyfodol y Gymraeg yn amlwg fel thema pwysig i'r gynulleidfa oedd wedi dod i wrando ar y gwleidyddion yng nghanolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin, ond roedd gwahaniaethau amlwg iawn o ran y dull gorau o sicrhau ei dyfodol gan y gwahanol bleidiau.
Er nad oedd consensws clir ar nifer o faterion, roedd y ddadl yn rhoi cyfle i bleidleiswyr gymharu polisïau ac arddulliau arwain y pleidiau wrth iddynt baratoi ar gyfer yr etholiad sydd i ddod ar 7 Mai.