Cais i droi eglwys gan Syr Clough Williams-Ellis yn llety gwyliau
Mae adeilad eglwys rhestredig a gafodd ei dylunio gan un o benseiri enwocaf Cymru o dan ystyriaeth i gael ei droi yn llety gwyliau.
Mae Syr Clough Williams-Ellis yn adnabyddus ar draws y byd fel pensaer pentref Eidalaidd Portmeirion, ond ef hefyd wnaeth ddylunio Neuadd Eglwys Pentrefelin ger Cricieth.
Nid yw'r adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei ddefnyddio bellach, wedi iddo gael ei ddefnyddio fel eglwys a neuadd eglwys dros y blynyddoedd.
Mae Cyngor Gwynedd bellach wedi derbyn cais am ganiatâd adeilad rhestredig yn ymwneud â newidiadau mewnol ac allanol i droi'r adeilad yn uned gwyliau, yn ogystal â chais llawn ar gyfer y cynllun.
Cafodd manylion am yr adeilad a'i hanes ei gynnwys yn asesiad effaith treftadaeth gan gwmni Adfer Conservation.
Wedi 75 mlynedd fel eglwys a neuadd eglwys, fe wnaeth defnydd o Y Ganolfan, a oedd gynt yn ysgol y pentref, fel man cyfarfod a chanolfan gymunedol, olygu nad oedd y neuadd eglwys yn cael ei defnyddio bellach.
Mae'r adroddiad yn nodi fod datblygiad y neuadd eglwys "yn cynrychioli newid yn y ffordd yr oedd pobl yn addoli, a symud tuag at adeiladau newydd, pwrpasol sy’n agosach at galon y gymuned”.
Ychwanegodd yr asesiad fod gan yr adeilad "arwyddocad sylweddol yn nhermau gwerth hanesyddol".
Bellach yn wag, mae'r dogfennau cynllunio yn nodi: "Mae'r adeilad wedi cael ei brynu gan y sawl sy'n gwneud y cais ar gyfer defnydd fel llety gwyliau."
Mae'r cynlluniau yn dweud na fyddai'r "amlen" allanol o amgylch yr adeilad yn newid fawr ddim, tra y byddai'r tu fewn yn "cael ei addasu yn ofalus ac yn sensitif".
Ychwanegodd mai'r bwriad fyddai i greu tair ystafell wely, gyda gofod agored ar gyfer cegin, ystafell fwyta ac ystafell fyw.
Yn ôl y cynlluniau, fe fyddai'r llawr parquet yn aros ym mhrif ran yr adeilad ac fe gafodd ei nodi fod "pob ymdrech wedi ei wneud i gadw cymaint o'r cymeriad hanesyddol â phosibl".
Nid oedd yna "unrhyw fwriad" i addasu'r ffenestri ond byddai defnydd llosgwr coed tân ar gyfer gwresogi'r prif ofod "yn anffodus yn arwain at orfod cael simnai addas".