Dadorchuddio cerflun i nodi cyfraniad pobl sy'n gadael eu cyrff i ymchwil feddygol

Cerflun Prifysgol Abertawe.jpg

Mae cerflun wedi ei ddadorchuddio ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn nodi cyfraniad pobl sy'n gadael eu cyrff i addysg ac ymchwil feddygol. 

Mae'r cerflun wedi ei ddadorchuddio ar Gampws Parc Singleton, a dywed y brifysgol ei fod yn caniatáu i fyfyrwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol gael dealltwriaeth ddyfnach o anatomeg ddynol a chymhlethdodau clefydau.

Mae'r cerflun yn ffrwyth llafur menter tair blynedd o hyd, Prosiect Coffa Rhoddwyr Cyrff, dan arweiniad Dr Marcela Bezdickova, Athro Cysylltiol mewn Anatomeg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. 

Cafodd y prosiect ei gefnogi gan fyfyrwyr meddygol a lansiodd ymgyrch codi arian i gefnogi creu'r cerflun. 

Dywedodd Dr Bezdickova: "Mae rhoddwyr cyrff yn rhoi i'n myfyrwyr gyflwyniad heb ei ail i anatomeg ddynol go iawn - y deunydd gwirioneddol a fydd yn sail i'w gwaith yn eu proffesiynau yn y dyfodol. 

"Cyfeirir atynt yn aml fel eu 'cleifion cyntaf' neu eu 'hathrawon mud' ac maent yn parhau i fod y safon aur ar gyfer addysg anatomegol, gan gynnig lefel o fanylder ac unigoliaeth nad oes modd i fodelau synthetig ei hatgynhyrchu.

"Mae ein myfyrwyr yn elwa'n fawr o'r haelioni hwn ac felly roedden ni'n teimlo'n gryf y dylai fod ffordd barhaol o goffáu'r rhoddwyr. 

"Rydym yn gobeithio y bydd y cerflun coffa trawiadol hwn yn anrhydeddu eu rhodd nodedig ac yn cynnig lle pwrpasol ar gyfer myfyrio ar yr effaith ddofn y maent wedi'i chael ar genedlaethau o weithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol."

Mae'r cerflun yn chwe throedfedd o uchder ac yn sefyll ar sylfaen carref Pennant o flaen Adeilad Grove sy'n gartref i labordai anatomeg y Brifysgol. 

Cafodd ei greu gan y cerflunydd blaenllaw o Sir Gaerfyrddin, Lee Odishow, a wnaeth ddylunio Cerflun Coffa'r Ddraig Goch yn Fflandrys.

Dywedodd Hope Vaughan-Hughes, myfyriwr ail flwyddyn ar y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion: "Mae dysgu a chael profiad gan ein rhoddwyr yn fraint sy'n aros gyda ni am byth. O'r diwedd mae'r cerflun hwn yn rhoi lle i ni ddiolch i'r bobl hynny a roddodd gymaint i'n haddysg cyn i ni hyd yn oed gwrdd â'n cleifion byw cyntaf."

Ychwanegodd Dr Bezdickova: "Ar ran ein Prosiect Coffa Rhoddwyr Corff, hoffwn estyn ein diolchgarwch diddiwedd i bawb a gyfrannodd at ein hymgyrch codi arian; o ganlyniad i'w haelioni, bellach mae gennym y lle parhaol hardd hwn ar gyfer myfyrio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.