Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dyn 74 oed yn Nhorfaen

bythway rd.jpg

Mae dyn 37 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn arall 74 oed mewn tŷ yn Nhrefethin yn Nhorfaen. 

Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion wedi mynychu tŷ ar Ffordd Bythway am tua 16:55 ddydd Iau gyda pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru. 

Bu farw dyn 74 oed o Drefethin yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Mae dyn 37 oed o Gwmbran wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn ddalfa. 

Dywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Neil Blyth: "Hoffwn ddarbwyllo cymunedau Trefethin ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sefydlu amgylchiadau o gwmpas y farwolaeth.

"Rydym yn deall y gall adroddiadau o'r math yma achosi pryder, ond rydyn ni wedi arestio dyn o'r ardal, ac roedd y dioddefwr yn ei adnabod, ac nid ydym yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600125343.

Mae'r heddlu hefyd wedi cyfeirio eu hunain at Y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.