Wrecsam: Arestio dyn o dde Lloegr ar amheuaeth o lofruddio

Rhos

Mae dyn o dde Lloegr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn ardal Wrecsam.

Cafodd ymchwiliad ei lansio ar ôl i Linas Buta, 49 oed, farw o ganlyniad i anaf i'w ben mewn tŷ yn ardal Bryn Glas o Rosllannerchrugog ar ddydd Gwener, 27 Mawrth.

Cafodd dyn 40 oed o ardal Essex ei arestio ar ddydd Iau 23 Ebrill ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae'r Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney, yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad i gysylltu ar 101, neu drwy wefan Heddlu'r Gogledd, gan ddefnyddio'r cyfeirnod O045989.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.