Pump wedi’i hanafu yn dilyn amheuaeth o ‘ymosodiad asid’ yng Nghaerdydd

Cafodd pump o bobl eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ag asid yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 14:44 ar Ffordd y Ddinas ac mae swyddogion yn parhau i ymchwilio tu allan i'r siop dorri gwallt ble digwyddodd yr ymosodiad.
Mae llygaid dystion wedi dweud eu bod wedi gweld y dioddefwyr yn defnyddio llaeth i leddfu’r boen wedi'r ymosodiad meddai gwefan Mail Online.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100312749.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google