
Coeden brin o’r gogledd dan fygythiad
Mae coeden brin sydd wedi ei darganfod yng ngogledd Cymru yn unig o dan fygythiad.
Mae astudiaeth newydd o holl goed y byd gan yr elusen fotaneg BGCI (Botanic Gardens Conservation International) yn dangos bod 30% o rywogaethau coed mewn risg o ddiflannu, gan gynnwys Cerddinen y Fenai.
Dim ond oddeutu 30 o goed Cerddinen y Fenai sydd ar ôl, ac mae pob un o’r rheini i’w gweld ar hyd arfordir y Fenai.
Gwarchod rhywogaeth
Mae’r goeden brin rŵan ymhlith rhestr ‘State of the World’s Trees’ o goed sydd dan fygythiad o amgylch y byd, gyda’r gobaith i’w gwarchod ac atal difodiant ac adfer y rhywogaeth.
Pan ddarganfuwyd Robbie Blackhall-Miles, o Fossil Plants bod rhywbeth mor brin yn tyfu ar hyd y Fenai roedd y benderfynol o’i gwarchod “i sicrhau nad oeddem yn ei golli am byth”.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, sy'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Fossil Plants hefyd yn ceisio amddiffyn y rhywogaeth brin hon.
Roedd yr Athro Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor wedi rhyfeddu wrth sylweddoli y gellir dod hyd i “goeden mor brin yn y warchodfa natur heb fod ymhell o'n Prifysgol.”
“Mae Cerddinen y Fenai yn codi cwestiynau diddorol am yr hyn sy'n diffinio rhywogaeth ac mae ganddi'r potensial i gynnwys pobl leol mewn cadwraeth leol.”
Mae Hannah Taylor, myfyrwraig cadwraeth amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor yn gwneud ei thraethawd hir ar fygythiadau’r goeden prin.
“Mae'n wych sylweddoli y gallai'r gwaith rwy'n ei wneud yn rhan o fy nhraethawd hir gael effaith ar gadwraeth coeden sydd mewn perygl difrifol.
Yn ôl Ms Taylor, mae Cerddinen y Fenai yn tyfu mewn dim ond un rhan fach o arfordir serth ar lannau’r Fenai.
“Mae Cerddinen y Fenai yn aelod o un o'r grwpiau coed mwyaf amrywiol yn Ewrop; y coed Cerddin, a elwir hefyd yn Griafol a Cherddin Gwynion.”
Mae Paul Smith, ysgrifennydd cyffredinol y BGCI wedi dweud fod yr adroddiad yn rhybuddio pobl am gyflwr coed y byd.
Dywedodd y gall arbenigwyr a llunwyr polisïau “ddefnyddio’r adnoddau a’r arbenigedd” y mae’r wybodaeth newydd hwn yn ei ddarparu er mwyn “atal coed rhag diflannu yn y dyfodol.”