Trump am gyfarch y genedl am Iran gyda ‘diweddariad pwysig’
Fe fydd Donald Trump yn cyfarch yr Unol Daleithiau o’r Tŷ Gwyn nos Fercher gyda “diweddariad pwysig” am ryfel Iran, meddai.
Fe fydd yr araith am 21.00 nos Fercher amser arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, sef 1.00 fore Iau GMT.
Daw ymysg adroddiadau cymysg ei fod yn ystyried dod a’r rhyfel i ben a hefyd ei fod yn ystyried gyrru milwyr o’r Unol Daleithiau i mewn i’r gwrthdaro.
Nos Fawrth fe awgrymodd y gallai’r wlad fod wedi gorffen ei rhyfel gydag Iran o fewn dwy i dair wythnos.
“Rydyn ni wedi cael newid cyfundrefn,” meddai wrth newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn. “Doedd newid cyfundrefn ddim yn un o’r pethau oedd gen i fel nod.
“Roedd gen i un nod: na fydden nhw’n cael arf niwclear, ac mae’r nod hwnnw wedi’i gyflawni. Fydd ganddyn nhw ddim arfau niwclear.
“Ond rydyn ni’n gorffen y gwaith, ac rwy’n meddwl o fewn rhyw bythefnos, neu efallai ychydig ddyddiau’n hirach, y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
“Ond rydyn ni eisiau dinistrio pob un peth sydd ganddyn nhw.”
‘Gelynion’
Ond dywedodd gweinidog tramor Iran ddydd Mawrth eu bod wedi paratoi ar gyfer “o leiaf chwe mis” o ryfel.
“Nid ydym wedi gosod unrhyw derfynau amser ar gyfer amddiffyn ein hunain,” meddai Abbas Araghchi wrth Al Jazeera.
“Byddwn yn amddiffyn ein gwlad a’n pobl cyn belled ag y bo angen a thrwy unrhyw fodd sydd ei angen.
“Nid oes ots pa amserlenni y mae ein gelynion yn eu gosod iddyn nhw eu hunain.
“Fodd bynnag, ein hargymhelliad yw eu bod yn dod â’r rhyfel hwn i ben yn llwyr ac yn barhaol cyn wynebu rhagor o ddifrod.”
'Gofalu am eu hunain'
Ychwanegodd Donald Trump ei bod hi’n bosib y bydd y rhyfel yn dod i ben yn gynt os daw cytundeb gydag arweinyddiaeth Iran.
“Mae’n bosib y cawn ni gytundeb oherwydd maen nhw eisiau dod i gytundeb,” meddai.
“Maen nhw eisiau dod i gytundeb yn fwy nag ydw i. Ond o fewn cyfnod gweddol fyr, fe fyddwn ni wedi gorffen,” meddai Trump.
“Bellach mae gennym ni grŵp o bobl sy’n wahanol iawn. Maen nhw’n llawer mwy rhesymol.”
Ailadroddodd Trump y dylai ailagor Culfor Hormuz fod yn broblem i wledydd eraill.
Culfor Hormuz yw un o brif lwybrau masnach strategol y byd ac mae'n hanfodol i ddosbarthu olew, gyda thua 20% o olew a nwy naturiol hylifedig (LNG) yn pasio drwy'r culfor fel arfer.
“Os yw Ffrainc neu ryw wlad arall eisiau cael olew neu nwy, rydych chi’n mynd drwy’r culfor – Culfor Hormuz – byddan nhw’n mynd drwyddo ac fe allan nhw ofalu amdanyn nhw eu hunain,” meddai.
“Fydd gennym ni ddim byd i’w wneud â hynny.”
