Cannoedd yn arwyddo deiseb yn erbyn toriadau i wasanaeth bws ysgol
Mae cannoedd o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn cynlluniau Cyngor Caerffili i dorri gwasanaeth bws ysgol am ddim.
Mae rheolau newydd y cyngor yn golygu nad yw plant ysgol o fewn dwy filltir yn gymwys ar gyfer gwasanaeth bws ysgol os yw eu llwybr yn ddiogel.
Maen nhw eisoes yn y broses o dorri un llwybr bws am ddim yn Aberbargod a mae wyth arall dan fygythiad yn y fwrdeistref sirol.
Mae’r cyngor yn paratoi i roi’r gorau’n raddol i gludo tua 340 o ddisgyblion i’w hysgolion.
Mae’r rhai sydd wedi llofnodi deiseb newydd yn dweud eu bod yn “gwrthwynebu’n gryf” y cynllun i ddiddymu gwasanaeth bws ysgol i blant yn Aberbargod sy’n mynd i Ysgol Gyfun Heolddu ym Margoed.
Maen nhw’n dadlau bod torri’r gwasanaeth yn “rhoi baich annerbyniol ar blant mor ifanc ag 11 oed, a fydd yn gorfod cerdded pellter hir a heriol i’r ysgol heb oruchwyliaeth”.
Fe dderbyniodd Cyngor Caerffili y byddai’r toriadau yn siomi rhai trigolion, ond dywedodd llefarydd fod y llwybrau wedi cael eu hystyried yn ddiogel ar ôl “proses asesu gadarn a chyson”.
Bydd disgwyl i ddisgyblion sy’n byw o fewn dwy filltir i’w hysgol wneud eu ffordd eu hunain i’r gwersi o fis Medi ar hyd y llwybrau canlynol:
- Aberbargod i Ysgol Gyfun Heolddu;
- Abertridwr i Ysgol Gyfun Cenydd Sant;
- Bedwas/Trethomas i Ysgol y Gwyndy;
- Caerffili i Ysgol Uwchradd Bedwas;
- Gelli-gaer/Penybryn/Tiryberth i Ysgol Lewis i Ferched;
- Llanbradach i Ysgol y Gwyndy;
- Maesycwmer i Ysgol Lewis i Ferched;
- Maesycwmer i Goleg Ystrad Mynach;
- Trinant i Ysgol Uwchradd Islwyn.
Mae’r ddeiseb ar-lein yn erbyn y toriadau ar gyfer Ysgol Gyfun Heolddu wedi cael ei llofnodi gan fwy na 300 o bobl hyd yma.
Mae’n anghytuno â’r cyngor fod y llwybr yn ddiogel, am ei fod yn “cynnwys cerdded ar hyd ac ar draws prif ffyrdd prysur, yn aml heb oleuadau digonol na mannau croesi diogel”.
Mae’n dadlau y bydd iechyd y disgyblion yn cael ei effeithio os ydyn nhw’n cael eu gadael “heb gefnogaeth” ar lwybr heb oruchwyliaeth, ac y byddan nhw’n “aros mewn dillad gwlyb drwy gydol y dydd” pan fydd rhaid iddyn nhw gerdded mewn tywydd gwael.
“Dyw pob plentyn ddim yn barod i wneud taith o’r fath ar ei ben ei hun,” meddai’r ymgyrchwyr. “Mae aeddfedrwydd, hyder ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd yn amrywio, ac i lawer o deuluoedd, mae’r risgiau yn rhy fawr.”
Maen nhw wedi galw ar y cyngor i ailystyried y cynllun ac adfer y gwasanaeth bws, neu ddarparu “ateb diogel, dibynadwy a phriodol arall”.
Daw eu galwadau ar ôl beirniadaeth o’r polisi gan grŵp gwrthblaid Plaid Cymru ar y cyngor – dywedodd eu harweinydd, y Cynghorydd Charlotte Bishop, fod “diogelwch yn bwysicach na pholisi”.
Mae’r Cynghorydd Jamie Pritchard, sy’n arwain y cyngor dan reolaeth Llafur, wedi amddiffyn y newidiadau gan ddweud bod Caerffili yn parhau i fod “yn un o’r ychydig awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n cynnig mynediad mor eang at gludiant am ddim i ddisgyblion”.
Wrth siarad yn gynharach, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y newidiadau hyn yn debygol o beri pryder a siom, ond mae’n rhaid i’r cyngor gymryd agwedd deg a chyson wrth weithredu ein polisi trafnidiaeth.”
Dywedodd y llefarydd fod pob llwybr wedi cael ei adolygu yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
“Diogelwch disgyblion yw ein prif flaenoriaeth wrth wneud y penderfyniadau hyn, ac mae’r llwybrau sydd wedi cael eu hailasesu bellach yn cael eu hystyried yn ddiogel, felly mae angen gweithredu ein polisi yn unol â hynny,” medden nhw.
