Arolwg newydd yn awgrymu bod ffydd y cyhoedd yn y Teulu Brenhinol yn is nag erioed
Mae arolwg newydd yn awgrymu bod ffydd pobl Cymru yn y Teulu Brenhinol yn is nag erioed.
Mae’r canlyniadau’r arolwg, gafodd ei wneud gan Beaufort Research, yn awgrymu bod 59% o’r rheiny gafodd eu holi’n teimlo bod ffydd y cyhoedd yn y teulu brenhinol ar ei isaf.
Roedd 17% yn anghytuno, gyda 21% ddim yn cytuno nac yn anghytuno, a 2% ddim yn gwybod.
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu’n arbennig gan raglen Y Byd ar Bedwar, gan holi 500 o bobl yng Nghymru am eu hagweddau tuag at y Teulu Brenhinol yn dilyn arestio Andrew Mountbatten-Windsor ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Er gwaethaf helyntion diweddar y cyn-dywysog brenhinol, roedd 56% o’r rheiny gafodd eu holi am weld y Frenhinaeth yn parhau, gyda 26% yn dweud nad oedden nhw o blaid hynny, a 19% ddim yn gwybod.
Mae Dr. Mari Elin Wiliam yn ddarlithydd hanes ym Mhrifysgol Bangor, ac yn arbenigo ar hunaniaeth a chenedlaetholdeb yng Nghymru. Dywedodd wrth Y Byd ar Bedwar:
“Fyswn i’n dweud fod lot o bobl eisiau gweld y Frenhiniaeth yn goroesi ac yn parhau yn deillio ella o’r ffaith eu bod nhw’n gallu gwahaniaethu Andrew oddi wrth gweddill y Teulu Brenhinol.
"Yn sicr, dwi’n meddwl bod y ffaith mai’r etifedd nesa ydy William hefyd yn helpu pobl i weld dyfodol i’r Teulu Brenhinol.”
Ychwanegodd: “Os ydy rhywun yn edrych ella 200 mlynedd i’r dyfodol, pwy a ŵyr. Ond os ‘da ni’n edrych ar rywbeth fel pum deg mlynedd o rwan, dwi’n meddwl y bydd ‘na dal elfen o’r Teulu Brenhinol Prydeinig yn dal i fynd fel pennaeth y Wladwriaeth.
"Bydd y Teulu Brenhinol o ran y rhai sy’n derbyn incwm cyhoeddus efallai yn llai, ond dwi’n eitha sicr y bydd y Frenhiniaeth dal yna. Mae angen dipyn mwy o esblygiad yn y drafodaeth gyhoeddus a’r elfennau amgen i’r Frenhiniaeth cyn iddyn nhw ddiflannu yn llwyr.”
Dywedodd 45% o’r bobl gafodd eu holi bod y newyddion diweddar am Andrew Mountbatten-Windsor wedi eu gwneud yn llai cefnogol o’r Teulu Brenhinol, gydag 8% yn dweud eu bod bellach yn fwy cefnogol.
Yn ôl Dai Davies, cyn Bennaeth Diogelwch y Teulu Brenhinol, mae gan y sefydliad gwestiynau i’w hateb yn sgil helyntion Andrew:
“Os ydy o’n [cael ei] ddangos bod pawb yn y Teulu Brenhinol yn gwybod am hyn, maen nhw’n haeddu bob dim sy’n dod atyn nhw.
"Dwi ddim yn frenhinwr, dwi ddim yn weriniaethwr chwaith, ond dwi yn licio’r gwir.
“Dwi’n meddwl bod y sgandal fel octopws. Ac mae’r tentacles dros y lle i gyd. Yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, Y Swyddfa Fasnach, i San Steffan ei hun, i’r Teulu Brenhinol.
"Mae ‘na gymaint o gwestiynau. Mae hyn am gymryd misoedd ar fisoedd i gael y gwir, yn fy marn i.”
Ychwanegodd: “Sut ydach chi am gael y gwir? Wel, yn fy marn i, cael ymchwiliad wedi ei arwain gan Farnwr ydy’r unig ffordd.”
Mae’r arolwg yn awgrymu bod 55% o bobl yn teimlo bod y Teulu Brenhinol wedi ymdrin gyda helyntion Andrew Mountbatten-Windsor yn dda, gyda 36% yn dweud bod y teulu wedi gwneud hynny’n wael, a 9% ddim yn gwybod.
Mewn datganiad a ryddhawyd adeg arestio Andrew Mountbatten-Windsor, dywedodd Ei Fawrhydi Y Brenin Charles: “Rwy wedi dod i ddeall gyda’r pryder mwyaf y newyddion am Andrew Mountbatten-Windsor a’r amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
"Yr hyn fydd yn dilyn nawr yw proses gyflawn, deg a chywir lle bydd y mater yn cael ei ymchwilio mewn modd priodol gan yr awdurdodau priodol.
"Yn hyn, fel yr wyf wedi ei nodi o’r blaen, bydd ganddynt ein cefnogaeth lawn a’n cydweithrediad lwyr a chyflawn.
"Gadewch i mi ddatgan yn glir: mae’n rhaid i’r gyfraith i gymryd ei chwrs. Wrth i’r broses fynd rhagddi ni fyddai’n briodol i mi wneud sylw pellach ar y mater. Yn y cyfamser, bydd fy nheulu a minnau yn parhau gyda’n dyletswydd a’n gwasanaeth i chi i gyd."
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Diwedd y Goron? Nos Fercher Ebrill 1af ar S4C, Clic a BBC iPlayer