Pam fod tri ymgeisydd Reform yn yr un etholaeth wedi camu o’r neilltu?

Owain Clatworthy

Mae ansicrwydd ynglŷn â phwy fydd yn cynrychioli Reform yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg yn etholiad y Senedd, ar ôl i dri o’r chwech ymgeisydd oedd gan y blaid gamu o’r neilltu.

Nid yw’r blaid wedi cyhoeddi eto pwy fydd yn cymryd lle’r tri sydd wedi gadael. Mae enwebiadau’n cau ar 9 Ebrill.

Dyma grynodeb o’r hyn ydan ni’n ei wybod hyd yma.

Beth sydd wedi digwydd?

Fe wnaeth Reform gyhoeddi eu rhestr ymgeiswyr llawn yr wythnos diwethaf, ond ers hynny mae nhw wedi colli pedwar ymgeisydd ledled Cymru.

Yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg, mae tri o’r chwe ymgeisydd bellach wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu sefyll.

Y cyntaf oedd Corey Edwards, oedd ar frig rhestr y blaid yn yr etholaeth. Fe gamodd o’r neilltu yr wythnos diwethaf ar ôl i lun ddod i’r amlwg oedd, yn ôl pob golwg, yn ei ddangos yn gwneud saliwt Natsïaidd.

Wedyn daeth i’r amlwg fod Derek Roberts (uchod), oedd yn ail ar y rhestr, hefyd wedi camu o’r neilltu.

Yna brynhawn ddydd Mawrth cyhoeddodd Owain Clatworthy, oedd yn chweched ar y rhestr, ei fod yntau’n gadael y blaid mewn protest.

Pwy oedd â’r siawns orau o gael ei ethol?

O dan y system bleidleisio newydd ar gyfer etholiad y Senedd, mae pleidiau’n cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ym mhob un o’r 16 etholaeth.

Y bobl sydd ar frig y rhestr sydd â’r siawns orau o gael eu hethol.

Felly, Corey Edwards a Derek Roberts - sef rhif un a rhif dau ar restr Reform ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg - oedd yn y safle cryfaf i ennill sedd i’r blaid yn yr etholaeth honno.

Pam wnaeth Derek Roberts gamu o’r neilltu?

Dywedodd ffynhonnell o Reform bod Derek Roberts (uchod) wedi camu yn ôl am “resymau personol”, ond does dim rhagor o fanylion wedi’u gwneud yn gyhoeddus.

Wrth gael ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf dywedodd ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn cymryd “pleser mawr” yn yr enwebiad.

Nid yw wedi cyhoeddi neges am ei enwebiad ers hynny.

Pam wnaeth Owain Clatworthy adael?

Dywedodd Owain Clatworthy ei fod yn gadael Reform oherwydd pryderon am y ffordd roedd y blaid yn cael ei rhedeg.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd fod  ganddo bryderon am“ddigwyddiadau diweddar”, penderfyniadau mewnol gwael, diffyg disgyblaeth a’r broses ddewis ymgeiswyr.

Fe gyhuddodd y blaid o ddewis unigolion oedd â “fawr ddim neu ddim cysylltiad o gwbl” â’r cymunedau roedden nhw’n ceisio’u cynrychioli.

Image
Corey Edwards
Roedd Corey Edwards yn cynrychioli plaid Reform UK mewn rhifyn arbennig o'r rhaglen Pawb a'i Farn ar S4C yn gynharach yn y mis

Beth am Corey Edwards?

Corey Edwards oedd ymgeisydd rhif un Reform ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg.

Fe gamodd o’r neilltu wedi i lun ddod i'r amlwg sy'n ymddangos fel pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd. 

Roedd Nigel Farage wedi amddiffyn Edwards dros y llun, gan honni ei fod yn dynwared Basil Fawlty. Ond y diwrnod wedyn fe wnaeth Edwards ymddiswyddo.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK yng Nghymru: "Mae Corey Edwards wedi rhoi gwybod i ni ei fod yn camu lawr fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai, gan roi rhesymau yn ymwneud â'i iechyd meddwl.

"Rydym yn dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol ac yn gobeithio y gall ei breifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Pam mae hyn yn bwysig i’r blaid?

Mae angen o leiaf chwe ymgeisydd ar restr pob etholaeth os yw plaid am gael gwario hyd at y terfyn llawn yn ystod yr ymgyrch.

Felly mae colli hanner rhestr ymgeiswyr mewn un etholaeth yn broblem ymarferol yn ogystal â gwleidyddol i Reform.

A yw hyn yn digwydd mewn etholaethau eraill hefyd?

Do. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Patrick Benham-Crosswell - oedd yn bedwerydd ar restr Reform yn etholaeth Gŵyr Abertawe - ei fod yn gadael.

Dywedodd ar Facebook fod “proffesiynoli” y blaid wedi arwain at sefyllfa lle roedd aelodau ac ymgeiswyr yn cael eu cymryd yn ganiataol.

Daeth hynny ar ôl i ddau ymgeisydd arall dynnu’n ôl o’r ras ym Mhontypridd Cynon Merthyr y diwrnod cyn i Reform gyhoeddi ei restr swyddogol o ymgeiswyr.

Dywedodd un ohonyn nhw, Andrew Barry, y byddai yntau hefyd yn ymddiswyddo o’r blaid, mewn anghydfod ynghylch ymgeiswyr eraill yn cael eu “parasiwtio i mewn” i’w ardal.

Image
Neil Roberts
Neil Roberts o Blaid Cymru

Ai Reform yw’r unig blaid i golli ymgeiswyr?

Na. Fe wnaeth un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd hefyd gamu i lawr yr wythnos diwethaf ar ôl i drydariad sarhaus gael ei ddatgelu.

Gosodwyd Neil Roberts yn bedwerydd ar restr y blaid i ymgeisio am etholaeth Caerdydd Penarth ym mis Mai.

Roedd wedi defnyddio term sarhaus am blant am y cyfryngau cymdeithasol.

"Flynyddoedd yn ôl, fe wnes i sylw gan ddefnyddio slang ar-lein a oedd yn amhriodol ac yn amrwd,” meddai wrth gyhoeddi na fyddai yn ymgeisydd rhagor.

“Roedd yr iaith a ddefnyddiais yn anghywir, ac rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn amdano. Ymddiheuraf yn ddiamod am y drosedd a'r pryder y mae wedi'i achosi.”

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae disgwyl i’r holl brif bleidiau sefyll chwech ymgeisydd ym mhob etholaeth, a bydd y rhestrau llawn yn cael eu cyhoeddi ar ôl i’r cyfnod enwebu gau ar 9 Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.