Ni fydd pawb yn cael help gyda biliau ynni uchel, meddai’r Canghellor

Rachel Reeves

Mae’r Canghellor wedi dweud y byddai unrhyw gymorth gan y llywodraeth i helpu pobl gyda biliau ynni uchel yn seiliedig ar incwm aelwydydd.

Mae prisiau olew a nwy wedi codi’n sydyn dros y mis diwethaf, gyda thua 20% o olew a nwy naturiol hylifedig (LNG) y byd wedi ei atal yn sgil cau Culfor Hormuz oddi ar arfordir Iran.

Bydd biliau ynni cartrefi yn gostwng ar gyfartaledd ym mis Ebrill o dan gap prisiau Ofgem, ond mae disgwyl iddyn nhw godi’n sylweddol dros yr haf.

Dywedodd Rachel Reeves ei bod hi’n “rhy gynnar” i ddweud yn union pwy fyddai’n cael help, ond awgrymodd na fyddai unrhyw gymorth pellach yn cyrraedd tan yr hydref.

Mewn cyfweliad â BBC Breakfast a ddarlledwyd fore Mercher, dywedodd: “Dw i eisiau dysgu gwersi’r gorffennol.

“Oherwydd pan oresgynnodd Rwsia Wcráin, cafodd y traean cyfoethocaf, y rhai oedd ar eu gorau eu byd, fwy na thraean o’r cymorth. 

“Dydy hynny ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.”

Ychwanegodd: “O fis Gorffennaf i fis Medi, mae’r defnydd o nwy, yn enwedig gan deuluoedd a phensiynwyr, ar ei isaf o unrhyw gyfnod yn y flwyddyn oherwydd mai misoedd yr haf ydy’r rhain.

“Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd y gallwn ni gefnogi pobl ar sail incwm eu haelwyd.”

Ychwanegodd Rachel Reeves wrth BBC Breakfast mai’r ffordd orau o ostwng prisiau i bobl fyddai i’r gwrthdaro ddod i ben ac i Gulfor Hormuz ailagor. 

“Dyna pam mae Keir Starmer yn hollol gywir i beidio â gadael i ni gael ein tynnu i mewn i ryfel na wnaethon ni ei ddechrau, oherwydd yr effaith mae hynny’n ei chael ar bobl yma gartref,” meddai.

Taliad untro

Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cartrefi incwm isel i helpu gyda phrisiau tanwydd.

Bydd pobl ar incwm isel sydd ar gynllun gostyngiadau Treth Cyngor, ac sy'n defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG), yn gymwys am daliad o untro £200.

Daw'r cyllid hwn o £3.8 miliwn a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth 2026. 

Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu ag aelwydydd cymwys yn uniongyrchol ac yn eu gwahodd i wneud cais, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae Reform UK a’r Ceidwadwyr wedi galw ar y llywodraeth i ddileu TAW ar filiau ynni cartrefi dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu i leddfu’r argyfwng costau byw.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am gymorth uniongyrchol ehangach i aelwydydd pan fydd biliau’n codi uwchlaw’r cap prisiau presennol.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y bydden nhw’n torri biliau ynni cartrefi drwy newid y ffordd mae prosiectau ynni adnewyddadwy newydd yn cael eu hariannu.

Mae’r Blaid Werdd wedi dweud y dylai gweinidogion warantu na fydd biliau’n codi ym mis Gorffennaf, pan fydd y cap prisiau’n cael ei ddiweddaru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.