Dyn 21 oed o Fangor i gael ei ddedfrydu am droseddau yn ymwneud â therfysgaeth

Llys y Goron Lerpwl

Me disgwyl i ddyn 21 oed o Fangor gael ei ddedfrydu ddydd Mercher am droseddau yn ymwneud â therfysgaeth. 

Fe wnaeth Ashton Rees 'arbrofi' gyda gwneud dyfeisiau, ac nid yw rhai ohonynt erioed wedi cael eu hadfer ar ôl iddo eu claddu mewn coetir.

Fe'i cafwyd yn euog ym mis Mawrth o bedwar cyhuddiad o gael cofnod o wybodaeth ddefnyddiol i derfysgaeth yn ei feddiant wedi i ddogfennau gael eu darganfod ar ei ffôn.

Clywodd Llys y Goron Lerpwl ddydd Mawrth ei fod wedi rhannu rhai o'r dogfennau gydag eraill, gan gynnwys un ar fforwm ar-lein Reddit. 

Dywedodd Rupert Jones ar ran yr erlyniad fod y diffynnydd yn 'brolio' i eraill mewn neges ar ei ffôn am wneud bom pibell.

Ond dywedodd fod y cofnod ohono’n ffrwydro yn ei ddwylo fel y cafodd ei ddisgrifio "efallai braidd yn amhosibl".

Ychwanegodd fod dau ddyfais sylfaenol wedi cael eu hadfer o gartref y diffynnydd. 

Gofynnodd y Barnwr Brian Cummings KC: "Yn sicr, fe wnaeth arbrofi gyda gwneud dyfeisiau. Ond ydyn ni'n gwybod os y llwyddodd i wneud unrhyw beth yn llygaid y gyfraith a fyddai wedi cael ei ystyried yn arf tanio?"

Ymatebodd Mr Jones drwy ddweud: "Yn syml, dydyn ni ddim yn gwybod hyn oherwydd na chafodd rhai ohonynt erioed eu hadfer."

Dywedodd David Birrell wrth amddiffyn Rees ei fod yn "ddyn ifanc gyda chymeriad da a phositif".

Ychwanegodd fod gan y diffynnydd, a oedd gan ddiagnosis o awtistiaeth, "ddiddordeb obsesiynol o bosibl” mewn gwneud pethau.

"Fe wnaeth y dyfeisiau gartref a'u defnyddio neu eu profi tra ar ben ei hun mewn coetir anghysbell lle nad oedd yna unrhyw risg i unrhyw un arall," meddai.

Dywedodd Mr Birrell nad oedd yna unrhyw dystiolaeth fod gan y diffynnydd safbwyntiau eithafol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.