Brechlynnau Covid-19 ddim yn cael eu hargymell ar gyfer plant iach
Nid yw brechlynnau Covid-19 ar gyfer plant iach rhwng 12 a 15 oed yn cael eu hargymell gan y corff sy'n cynghori'r llywodraeth ar frechlynnau.
Yn ôl Sky News, mae'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi dweud na ddylai'r brechlyn gael ei gynnig am resymau iechyd yn unig.
Mae'r buddion o frechu pobl ifanc yn y grŵp oedran hwn fymryn yn fwy na'r niwed posib iddynt, yn ôl y JCVI.
Serch hynny, mae'r corff wedi cynghori'r llywodraeth i edrych ar "broblemau ehangach", gan gynnwys effaith y feirws ar ysgolion.
Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi croeswu’r cyngor: “Hoffwn ddiolch i’r Cyd-bwyllgor am roi ystyriaeth lawn i’r mater o frechu plant a phobl ifanc 12-15 oed, ac am gymryd gofal er mwyn ffurfio safbwynt cytbwys.
"Ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, rwyf wedi gofyn i fy Mhrif Swyddog Meddygol ddarparu canllawiau cyn gynted â phosibl ar y manteision clinigol a’r manteision iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â brechu’r grŵp oedran hwn.
"Ein bwriad, fel ein bwriad ers dechrau’r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a’r dystiolaeth wyddonol. Bydd penderfyniadau ar frechu pob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed yn cael eu gwneud ar sail cyngor y Prif Swyddog Meddygol, ynghyd â chyngor a ddarperir gan y Cyd-bwyllgor.
“Bydd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio’n gyflym i nodi’r plant a’r bobl ifanc hyn, a bydd eu Byrddau Iechyd yn cysylltu â hwy yn awtomatig."
Darllenwch y stori'n llawn yma.