Dyn yn ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o ladd ei gyn-wraig

North Wales Live 01/09/2021
Jade Ward

Mae cyn-ŵr mam i bedwar o blant a gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Sir y Fflint wedi ymddangos mewn llys y goron.

Fe ymddangosodd Russell Norman James Marsh, 29, o Ffordd Chevrons, Shotton, drwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn, Wrecsam, wedi ei gyhuddo o lofruddio Jade Marsh, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward.

Mae patholegydd ar ran y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, wedi nodi diffyg ocsigen fel achos marwolaeth cychwynnol.

Fe siaradodd Marsh i gadarnhau ei enw yn unig yn ystod gwrandawiad wyth munud o hyd ddydd Mercher yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, yn ôl North Wales Live.

Mae Marsh wedi ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd ei ymddangosiad nesaf o flaen y llys ar 19 Tachwedd.

Darllenwch fwy ar y stori yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.