'Colled' wrth i fanc arall gau mewn tref ar Ynys Môn
'Colled' wrth i fanc arall gau mewn tref ar Ynys Môn
Mae sut 'dan ni'n rheoli ein harian wedi bod yn newid ers blynyddoedd.
Roedd cangen Lloyds yn Llangefni eisoes wedi cwtogi oriau.
Erbyn mis Mehefin bydd wedi cau yn gyfan gwbl.
Y gwasanaeth wyneb yn wyneb sydd wedi bod mor bwysig mewn ardal wledig yn diflannu.
"Mae'n golled i bobl, yn enwedig fi sy'n hyn a ddim yn licio'r internet. I fancio.
“Mae'n broblem fawr i Sir Fon."
"Fydda i'm yn defnyddio banc, ar-lein ydy bob dim gen i.
"Yn anffodus. Dyna ydy'r oes 'di mynd."
"Gwael, does gynnon ni ddim banc rwan, bydd rhaid mynd i Fangor."
"Dw i'm yn meddwl bod o'n effeithio fi achos dwi efo HSBC.
"Mae'n siomedig bod y banciau yma'n cau."
"Dw i'n gorfod mynd i Landudno am Halifax."
I Landudno?
"Ia."
"Mae'n ddigalon, dydy."
Un banc traddodiadol fydd ar ôl yn y dref o fis Mehefin.
Yn ogystal â Llangefni, bydd Lloyds hefyd yn cau canghennau yn Aberdâr, Cwmbrân,
Glyn Ebwy, Pen-y-bont Parc Menter Abertawe a Pharc Victoria a Ffordd Albany, Caerdydd.
Wrth gyhoeddi'r manylion mae Lloyds yn mynnu bod cwsmeriaid eisiau rhyddid i fancio yn y ffordd sy'n gweithio orau i nhw.
Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn cynnig mwy o ddewis o ffyrdd i bobl reoli eu harian nag erioed o'r blaen.
Mae hynny'n cynnwys yr ap, Swyddfa'r Post gwasanaeth PayPoint a changhennau Lloyds a Halifax sy'n dal ar agor.
Mae arbenigwyr yn dal i deimlo y bydd nifer ar eu colled.
"Bydd y penderfyniad yma yn cael effaith negyddol ar lawer.
"Ni'n meddwl am yr henoed sydd llai hapus i fancio ar-lein pobl sydd heb gysylltiad da i'r we.
"Bydd hi'n anoddach iddyn nhw fancio ar-lein yn sicr."
Mae'n duedd ers blynyddoedd lawer, yn effeithio'r gwledig a'r dinesig.
I rai yn fwy nag eraill, gall y bwlch fod yn sylweddol.
