Marwolaeth Parc Biwt: Gary Jenkins wedi marw o anafiadau i’w ymennydd

Mae cwest wedi clywed fod dyn a gafodd ei ymosod arno yn un o barciau Caerdydd wedi marw o ganlyniad i anaf i’w ymennydd.
Bu farw Dr Gary Jenkins, 54 oed, yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd dros bythefnos wedi’r ymosodiad ar 20 Gorffennaf ym Mharc Biwt.
Yn ôl Golwg360, roedd ganddo anafiadau i’w ben, wyneb ac ymennydd.
Mae tri o bobl wedi eu cyhuddo o’i lofruddio ac yn parhau yn y ddalfa tan fis Hydref.
Darllenwch y stori’n llawn yma.