Ap o Fôn yn helpu rhieni newydd ar draws y byd i ddysgu Cymraeg i'w plant
Ap o Fôn yn helpu rhieni newydd ar draws y byd i ddysgu Cymraeg i'w plant
Mae ap a gafodd ei sefydlu ym Môn i helpu rhieni newydd i gyflwyno’r iaith Gymraeg i fabanod bellach yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd.
Mae Ap Ogi Ogi yn ap i rieni newydd sydd eisiau magu eu plant yn ddwyieithog, hyd yn oed os nad Cymraeg yw iaith y cartref.
Y nod yw magu hyder teuluoedd a fyddai fel arall yn penderfynu siarad Saesneg gyda’u plant, esboniodd hwylusydd yr ap.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Annest Rowlands: “Dan ni’n ffeindio bod yr ap o gymorth i rieni yn enwedig lle bo’ gynno chi gyplau un Cymraeg ac un Saesneg a 'di nhw ddim yn siŵr iawn pa iaith i roi pan mae’r babi ‘ma yn cael ei eni.
“A wedyn wrth gwrs, yn naturiol iddyn nhw Saesneg ydy iaith y cartre’.
“Dan ni yn trïo perswadio nhw yn ara’ bach a rhoi hyder iddyn nhw eu bod nhw’n gallu cyflwyno dipyn bach o Gymraeg.”
Mae’r ap yn cynnwys adrannau gwahanol lle y gallai rhieni ddod o hyd i adnoddau dysgu Cymraeg, yn ogystal â grwpiau babanod lleol a gwybodaeth iechyd drwy’r Gymraeg.
“Yr adborth dwi’n gael ar hyn o bryd ydy bod rhieni yn reit ddibynnol ar yr ap – sy’n beth positif am wn i ‘llu,” medd Annest.
O Fodedern i Fangladesh
Cafodd Ap Ogi Ogi ei ddatblygu gan Fforwm Iaith Môn a Menter Môn, ond mae ar gael i bobl o bedwar ban y byd i’w ddefnyddio gyda’u plant.
“Mae o’n cael ei lawrlwytho ar draws y byd – pobl sy’n symud o Gymru ac yn magu plant yn Lloegr, Yr Alban, India,” meddai Annest.
“Ma’ nhw'n gallu mynd i’r ap i wrando ac i wylio caneuon, mae ‘na restrau chwarae ’na i fynd i Spotify, mae ‘na fideos yna, mae ’na bethau dan ni ‘di ffilmio yn y gorffennol ‘llu trwy Menter Môn.”
Fel rhan o’i rôl fel hwylusydd yr ap, mae Annest yn teithio ar hyd Ynys Môn, gan gynnwys ardaloedd “mwy Seisnig”, a sicrhau bod cymorth drwy’r Gymraeg ar gael iddynt.
“Dan ni wedi cychwyn grŵp bach newydd yn Bodedern yn ddiweddar ‘ma ym mis Tachwedd a mae ‘na 43 o aelodau.
“Mae o jyst yn grŵp bach sydd yn iach iawn ar gyfer y rhieni fedru dod i gael sgwrsio, dan ni’n ‘neud bach o ganu, bach o stori.
“Mae jyst yn gyfle mewn ffordd, mewn ardal wledig o Ynys Môn. Yn lle bod gynnon ni bethau yn y trefi mewn ffordd, bod ‘na neuadd bentre’ yn gefn gwlad Bodedern efo 43 o famau ar y rhestr.
“Felly dan ni’n teimlo bod ni’n medru llenwi’r gaps a cefnogi ein gilydd.”
'Amhrisiadwy'
Mae’r ap yn rhan “bwysig” o weledigaeth sefydliad Menter Môn, medden nhw, wrth iddo greu cyfleoedd newydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol.
“Yn aml, mae teuluoedd lle mae un rhiant yn siarad Cymraeg ac un yn siarad Saesneg yn dewis Saesneg fel iaith yr aelwyd, gan olygu bod y plentyn yn colli’r cyfle i gael ei fagu’n ddwyieithog,” meddai’r Fenter.
“Rydym am annog rhieni i ystyried manteision rhoi’r Gymraeg i’w plentyn – os oes modd, mae’n fuddsoddiad amhrisiadwy i’w dyfodol.
“Mae rhieni’n gwneud nifer o benderfyniadau pwysig yn ystod y cyfnod cynnar, ond weithiau anghofir yr un sy’n gallu cael yr effaith fwyaf - rhoi’r iaith Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd."
Dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio fod y blynyddoedd cynnar yn “gyfnod allweddol” wrth fagu hyder yn y Gymraeg a sicrhau parhad yr iaith.
“Ond rhaid cydnabod bod diffyg trosglwyddo’r iaith yn y cartref yn her sylweddol sy’n parhau i wynebu’r iaith ym mhob rhan o Gymru,” meddai.
“Rydym felly yn croesawu’n fawr ymdrechion sy’n adnabod ffyrdd arloesol ac ymarferol o sicrhau bod trosglwyddo’r iaith yn digwydd yn naturiol ac yn hwylus, yn enwedig pan fo potensial i’r dulliau hynny gael eu mabwysiadu a’u hefelychu’n ehangach.”