Ceredigion: Apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod cynllun dadleuol mewn maes parcio
Mae cymdeithas dai yng Ngheredigion yn apelio penderfyniad i wrthod cynllun dadleuol i adeiladu 30 o dai ar faes parcio tref glan môr.
Roedd asiantaeth dai Barcud wedi gwneud cais i godi 30 o dai a fflatiau fforddiadwy ar safle Maes Parcio Canolog yng Nghei Newydd.
Roedd y cynllun gwerth £7.5 miliwn wedi hollti barn, gyda dros 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu.
Roedd swyddogion y cyngor wedi argymell caniatáu'r datblygiad, ond fis Mai y llynedd fe bleidleisiodd wyth o gynghorwyr yn erbyn y cais, gyda phump yn pleidleisio o blaid.
Ar hyn o bryd mae'r safle'n gweithredu fel maes parcio talu ac arddangos, ac yn cael ei reoli gan Barcud fel menter fasnachol.
Roedd disgwyl y byddai 98 o bobl ychwanegol yn byw yn y tai.
Pe bai wedi cael ei ganiatáu, byddai rhan o'r safle yn parhau i weithredu fel maes parcio, ond gyda 91 o safleoedd yn hytrach na 209 fel sydd yno ar hyn o bryd.
Mae Barcud bellach wedi cyflwyno apêl i’r penderfyniad i gorff cenedlaethol Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Gallwn gadarnhau fod Gwasanaeth Cynllunio Ceredigion wedi cael gwybod bod apêl wedi’i gyflwyno gan Barcud. Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw PCAC wedi gosod dyddiad cychwynnol ffurfiol ar gyfer y broses apêl."
Mae Barcud wedi derbyn cais am ymateb.