Neil Young yn canslo ei gyngherddau yn Ewrop, gan gynnwys yng Nghaerdydd

08/02/2026
Neil Young yng Ngwyl Glastonbury 2025
Neil Young yng Ngwyl Glastonbury 2025

Mae’r seren roc Neil Young wedi ymddiheuro ar ôl canslo cyfres o gyngherddau yn Ewrop dros yr haf, gan gynnwys cyngerdd yng Nghaerdydd.

Roedd disgwyl iddo berfformio yng Nghaeau'r Gored Ddu yn y brifddinas ar 5 Gorffennaf fel rhan o'i daith Love Earth o amgylch y DU ac Ewrop, gyda’i fand The Chrome Hearts.

Cafodd Elvis Costello a The Imposters gyda Charlie Sexton eu henwi fel gwesteion arbennig iddo yn y cyngerdd.

Ond daeth cyhoeddiad gan y canwr 80 oed ddydd Sadwrn nad "dyma’r amser" i chwarae sioeau byw a’i fod wedi "penderfynu cymryd saib".

Roedd y daith yn y DU ac Iwerddon yn cynnwys cyngherddau eraill ym Manceinion, Cernyw, Glasgow a Cork.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd neges ar ei wefan: "Rydw i wedi penderfynu cymryd saib ac ni fyddai yn teithio ar draws Ewrop y tro hwn.

"Diolch i bawb a brynodd docynnau. Mae’n ddrwg gen i am eich gadael i lawr, ond nid dyma’r amser.

"Rwyf wrth fy modd yn chwarae’n fyw a bod gyda chi a’r Chrome Hearts. Cariad, Neil. Cymerwch ofal."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.