Y Swyddfa Dramor i adolygu taliad Mandelson yn dilyn ei ddiswyddiad fel llysgennad America
Mae taliad a gafodd ei roi i Peter Mandelson ar ôl iddo gael ei ddiswyddo fel llysgennad Prydain i'r Unol Daleithiau yn cael ei adolygu gan y Swyddfa Dramor, yn ôl adroddiadau.
Cafodd yr Arglwydd Mandelson ei ddiswyddo yn sgil gwybodaeth newydd am ei berthynas gyda'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Ar ôl cael ei orfodi allan o'i swydd ym mis Medi'r llynedd, mae'r arglwydd wedi derbyn taliad sy'n cyfateb i dri mis o gyflog, yn ôl adroddiadau yn The Times.
Nid yw cyflog yr Arglwydd Mandelson wedi cael ei gyhoeddi, ond mae cyfrifiadau gan y papur newydd yn awgrymu y byddai ei swydd flaenorol yn derbyn cyflog yn y band uchaf yn y gwasanaeth sifil, sef rhwng £155,000 a £220,000 y flwyddyn.
Byddai hyn yn awgrymu bod yr Arglwydd Mandelson wedi derbyn taliad o rhwng £38,750 a £55,000 cyn treth yn dilyn ei ddiswyddiad.
Mae rhai yn Rhif 10 Downing Street wedi galw ar yr Arglwydd Mandelson i roi'r arian yn ôl neu ei roi i elusen sy'n cefnogi dioddefwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Cafodd cyflogaeth Peter Mandelson yn y gwasanaeth sifil ym mis Medi 2025 ei drefnu yn unol â chyngor cyfreithiol a thelerau ac amodau ei gyflogaeth.
"Fel yr ydym wedi’i ddweud yn gyson wrth y Senedd, cafodd prosesau adnoddau dynol arferol y gwasanaeth sifil eu dilyn.
"Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei roi i’r Senedd fel rhan o ymateb y llywodraeth i’r cynnig a gafodd ei basio'r wythnos diwethaf sy’n cael ei gydlynu gan Swyddfa’r Cabinet.
"Mae adolygiad wedi’i gychwyn yng ngoleuni rhagor o wybodaeth sydd bellach wedi’i datgelu a’r ymchwiliad heddlu sy’n parhau."
Mae honiadau fod yr Arglwydd Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein, tra'n weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.
Daeth hynny i'r amlwg ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddiwedd mis Ionawr.
Fe wnaeth yr heddlu chwilio mewn dau gyfeiriad ddydd Gwener fel rhan o'r ymchwiliad i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus gan yr Arglwydd Mandelson.
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, bellach yn wynebu pwysau cynyddol oherwydd ei benderfyniad i benodi'r Arglwydd Mandelson yn llysgennad i'r Unol Daleithiau, er gwaethaf gwybod bod ei berthynas gydag Epstein wedi parhau ar ôl iddo ei gael yn euog yn 2008 o gyhuddiad yn ymwneud â phuteindra.
Ddydd Sadwrn dywedodd y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, fod y sefyllfa sy'n wynebu Syr Keir yn "ddifrifol" ac awgrymodd fod arweinydd y Blaid Lafur wedi bod yn "rhy araf i wneud y pethau cywir" yn sgil sgandal yr Arglwydd Mandelson.
Er hynny dywedodd Mr Brown ei fod yn ystyried Syr Keir fel "dyn gonest" a oedd wedi cael ei "fradychu" gan yr Arglwydd Mandelson.
Wrth gael ei holi beth oedd ei neges i’r Blaid Lafur am ddyfodol Syr Keir, dywedodd Mr Brown wrth raglen Today ar Radio 4: "Mae hyn yn amlwg yn ddifrifol.
"Hynny yw, mae 'na ddyfalu bob amser. Digwyddodd i mi, digwyddodd i Tony Blair. Mae’n digwydd i bawb ynglŷn â sut y dylid mesur eu dyfodol.
"Ond mae hyn yn ddifrifol, ac mae’r dasg yn glir iawn. Y dasg yw bod yn rhaid i ni lanhau’r system, glanhau’r system yn llwyr, rhoi diwedd ar y llygredd a’r ymddygiad anfoesol. Ac os na wnawn ni hynny, byddwn ni’n talu pris trwm."
Pan ofynnwyd iddo os mai Syr Keir yw'r person cywir i symud y wlad ymlaen, dywedodd: "Gallaf edrych yn ei lygaid a gallaf weld ei fod yn ddyn o onestrwydd. Mae eisiau gwneud y pethau cywir.
"Efallai ei fod wedi bod yn rhy araf i wneud y pethau cywir, ond rhaid iddo wneud y pethau cywir nawr, a gadewch i ni farnu beth mae'n ei wneud, ar yr hyn sy'n digwydd yn yr ychydig fisoedd nesaf pan fydd yn ceisio, ac rwy'n credu y bydd yn ceisio, glanhau'r system."