Golwg gyntaf ar ail gyfres Anfamol
Mae'r lluniau cyntaf wedi eu rhyddhau o ail gyfres ddrama Anfamol cyn iddi ddychwelyd i S4C yn y gwanwyn.
Bydd y gyfres newydd yn ail-gydio ar daith y prif gymeriad Ani wrth iddi drio canfod y balans cywir rhwng magu plentyn ar ei phen ei hun, gyrfa broffesiynol fel cyfreithwraig teulu a’i bywyd personol.
Yn ystod y gyfres gyntaf fe wnaeth Ani, neu Anwen Davies, sydd yn cael ei chwarae gan Bethan Ellis-Owen (Pobol y Cwm / Solomon a Gaenor), benderfynu cael plentyn ar ei phen ei hun drwy ddefnyddio banc sberm.
Bellach mae Llywelyn ei mab yn 18 mis oed, gydag Ani wedi penderfynu ei bod yn barod i ddod o hyd i gariad.
Gyda’r gyfres yn dychwelyd i’r sgrin fach ar 5 Ebrill, dyma gipolwg cynnar o’r ddrama cyn iddi gael ei darlledu ar S4C.
Bydd nifer o wynebau adnabyddus yn dychwelyd am yr ail gyfres, gan gynnwys Aneirin Hughes (Y Gwyll / Under Milk Wood) yn chwarae rôl Rhydian, Lowri Gwynne (Rownd a Rownd / Pili Pala) fel chwaer Ani, Elin, ac Olwen Medi (Pride / Enid a Lucy) yn dychwelyd fel Mam Ani.
Fe fydd cymeriadau newydd hefyd yn ymuno â’r ail gyfres, gan gynnwys Alex hen ffrind coleg i Ani sy’n cael ei phortreadu gan Heledd Gwynn (The Pact / 35 Diwrnod) ac Ayanna Hallam (Y Coridor) fel merch Alex, Mia.
BBC Studios sydd yn cynhyrchu’r gyfres gyda Geraint Todd yn cyfarwyddo, a Gwenllïan Gravelle yn uwch gynhyrchydd ar ran S4C.
Rhiannon Boyle ydi awdures y gyfres, a hithau wedi ysgrifennu’r ddrama lwyfan wreiddiol gafodd ei haddasu ar gyfer y teledu gan BBC Studios yn 2023.
Bydd y gyfres gyfan, gan gynnwys pum pennod 25 munud o hyd, ar gael yn i’w wylio yn eu cyfanrwydd o 5 Ebrill.
Fe fydd pob pennod hefyd yn cael ei hailadrodd gydag is-deitlau Saesneg bob nos Fercher o 8 Ebrill ar S4C, ac fe fydd hi ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.