Super Furry Animals yn ysbrydoli cyflwynydd radio o dramor i ddysgu Cymraeg

Rue Mathur

Mae cyflwynydd radio sy’n wreiddiol o India ond bellach yn byw yng Nghanada wedi dweud iddi benderfynu dysgu Cymraeg ar ôl cael ei “hysbrydoli” gan gerddorion fel y Super Furry Animals. 

Mae Rue Mathur wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pum mlynedd bellach, a hynny wedi iddi ddod ar draws caneuon Cymraeg drwy ei chwarae nhw ar ei rhaglen radio.

Mae’n dweud fod bandiau fel y Super Furry Animals ac Adwaith wedi ei swyno gan arwain at ei thaith i ddysgu’r iaith. 

A hithau’n datblygu meddalwedd yn ystod y dydd, mae Rue yn cyflwyno rhaglen radio Yellow Brit Road ar gampws Prifysgol Queen’s yn Kingston, Ontario gyda’r nos. 

Image
Rue a Gruff Rhys
Rue Mathur a Gruff Rhys (Llun cyfrannwr)

“Mae'n sioe ar gyfer cerddoriaeth newydd o Brydain ac Iwerddon,” meddai wrth siarad gydag adran S4C Dysgu Cymraeg. 

“Nes i ddod o hyd i gerddoriaeth Gruff Rhys, achos ei fand Super Furry Animals. Ro'n i jyst hooked. 

“Ar gyfer dysgu Cymraeg, nes i ddysgu gyda ‘Say Something in Welsh’. A ‘nes i gwrando ar gerddoriaeth, wrth gwrs. 

“Mae sîn music Cymraeg yn wych iawn. Dwi’n wrth fy modd gyda Alffa, Adwaith, rappers fel Sage Todz. 

“Mae gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg definitely yn ysbrydoli i fi.”

Image
Rue Mathur
(Llun cyfrannwr)

Creu cyfleoedd newydd

Mae’n dweud bod dysgu Cymraeg wedi creu cyfleoedd cyffrous iddi, gan gynnwys cwrdd â ffrindiau newydd yng Nghaerdydd. 

“Dysgwyr Cymraeg, ydyn nhw hefyd. So ‘dyn ni'n siarad yn Gymraeg,” meddai. 

Cafodd y cyfle i ymweld â’r brifddinas i gyfarfod a’i ffrindiau, a hynny wedi bod yn brofiad bythgofiadwy iddi.

“Byswn i ddim wedi cwrdd â ffrindiau annwyl ‘taswn i ddim yn bod yng nghymuned dysgwyr Cymraeg,” ychwanegodd. 

Image
Rue Mathur
Rue gyda'i ffrind yng Nghaerdydd (Llun cyfrannwr)

A hithau’n wreiddiol o India, mae’n dweud bod yna rai elfennau tebyg rhwng ei hiaith ei hunain a Chymraeg. 

“Dwi'n caru geiriau fel ‘cariad’ a ‘blodyn tatws’ – they just sound so sweet

“Dwi jyst yn moyn darganfod mwy am Gymru ac am gerddoriaeth o Gymru. Bod mwy hyderus am siarad hefyd.” 

Mae’n annog unigolion eraill i ddysgu’r iaith hefyd gan ddweud y dylai pobl fod yn “agored” a "chyffrous" i ddysgu pethau newydd. 

Image
Rue Mathur
(Llun cyfrannwr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.