Cyngor i ddymchwel cartrefi ar stryd sy'n dioddef llifogydd
Cyngor i ddymchwel cartrefi ar stryd sy'n dioddef llifogydd
Mis Chwefror chwe blynedd nol a Clydach Terrace, Ynysybwl dan ddŵr.
"Roedd uchder y dwr hyd at dop y ffenst."
Roedd rhaid i Rebecca Chadwick a gweddill trigolion y stryd adael eu cartrefi ar frys.
"Wedodd y dyn tan i fi fynd mewn i'r dwr a nofio mas.
"'Paid a becso beth sydd mewn 'na, cer amdani'.
"Roedd hwn am 2.00yb mewn hollol tywyllwch.
"'Na'i gyd o'n i'n gallu clywed o'dd y trydan yn popio."
Ers y noson honno, mae'n dweud ei bod hi'n byw mewn ofn.
"Pob amser mae'n bwrw glaw, 'dan ni'm yn cysgu o gwbl.
"'Dan ni lan trwy'r nos ac yn edrych ar y rhagolygon tywydd trwy'r amser.
"Os oes glaw yn dod, 'dan ni'n symud y dodrefn lan y grisiau.
"'Dan ni'n symud y plant mas o'r stryd.
"'Dan ni'n cerdded lan a lawr y ffordd trwy gydol y nos.
"'Dan ni'm yn byw!"
Storm Dennis yn 2020 ddaeth a'r llifogydd gwaethaf i'r ardal hon ond mae llifogydd eraill wedi bod ers 'ny a'r trigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi ddwywaith yn ddiweddar.
Mae CNC wedi asesu gwahanol opsiynau i ddiogelu'r stryd rhag llifogydd.
Ond, gyda newid hinsawdd yn digwydd dywed nad oes modd amddiffyn y tai 'ma rhag llifogydd yn y dyfodol.
Mewn cyfarfod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf heddiw roedd penderfyniad unfrydol i brynu bron i holl dai'r stryd.
Dymchwel yr adeiladau yw'r bwriad a'r trigolion yn cael arian i brynu cartrefi newydd.
"The risk here is quite unique and it is quite dangerous.
"The wall is five-foot-high, if the river comes an inch over the wall it means there's five foot of water in the street.
"There's no time to evacuate once the water starts flooding the street.
"For that reason, looking at the circumstances the Cabinet has taken the decision today to intervene."
Rhyddhad o ran y trigolion o'dd eisiau symud ond hefyd yn deall bod hon yn sefyllfa ddifrifol dros ben.
"Mae 'na gwestiynau o ran beth mae'n olygu i gymunedau eraill sy'n byw efo'r risg o lifogydd ac yn byw mewn ofn o'r glaw."
Yn ol CNC, mae newid hinsawdd yn neud llifogydd mewn ardaloedd fel hyn yn fwy tebygol yn y dyfodol.
"Mae'r math hwn o drafodaethau am adeiladau a'r tanadeiledd sydd yn yr ardaloedd yma yn cael eu bygwth gan yr eithafion tywydd.
"Bydden nhw'n fwy cyffredin yn y dyfodol yn anffodus."
Yn Rhondda Cynon Taf y prynhawn 'ma rhyddhad o'dd i bobl Clydach Terrace.
"Heno, galla i gysgu.
"Neithiwr, wnes i ddim cysgu o gwbl.
"'Dan ni'n edrych ar y rhagolygon tywydd yn aml i wybod os oes angen rhoi'r gatiau i fyny a symud y dodrefn.
"Heno, os yw'r glaw yn dod, mae'n gallu dod, sdim ots gen i ragor.
"Dw i'n gwybod bod golau ar ddiwedd y twnnel."
A gobaith nawr gall y gymuned yma barhau eu bywydau heb ofidio am y glaw mawr nesaf.
