Ansicrwydd am ddyfodol cynllun syrffio ar gyfer pobl ag anableddau

Ansicrwydd am ddyfodol cynllun syrffio ar gyfer pobl ag anableddau

Ar Draeth Caswell ger Abertawe, mae'r mor yn cynnig rhyddid i lawer.

I'r rheiny sy'n defnyddio Surfability mae'n fwy na chwaraeon, mae'n achubiaeth.

Ers dros ddegawd mae'r cynllun wedi cynnig sesiynau syrffio wedi'u haddasu i bobl ag anableddau ac anghenion ychwanegol.

Mae ambell wyneb cyfarwydd wedi bod yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth.

"Mae'n ysbrydoledig wrth weld yr anableddau gyda rhai o'r bobl 'ma a'r problem i'w goroesi i fynd at y dwr yn y lle cyntaf.

"Mae gweld y pleser maen nhw'n cael bod hunanbarch yn y fenter i bobl gydag anableddau."

I rai, mae mentro i'r mor yn rhan hanfodol o fywyd.

"I can't imagine my life without it.

"I never thought surfing was for me and didn't think it was possible.

"You come here and they don't see your limitations and know how to adapt and work with you as an individual."

Mae'r gwaith wedi denu sylw un o farwrion athletau Cymru.

"Mae'r tim yn Surfability yn wneud i chi deimlo'n gartrefol ac yn rhoi access i'r traeth.

"If you have a disability, dim lot o options i fynd i'r mor.

"Mae Surfability wedi agor y mor i bobl yn Abertawe."

Ond nawr, mae'r dyfodol yn ansicr.

Gyda chostau'n codi a llai o grantiau ar gael mae Surfability'n dweud nad yw'r broses gyllido bresennol yn ddigon i gynnal y gwaith.

"A lot come here and say that we must have a lot of support from the council and government.

"We have some, but mostly we do everything ourselves."

"Beth fydde'n wych yw mwy o sicrwydd i'r ariannu gan y Cyngor yn Abertawe.

"Maen nhw'n rhoi peth cefnogaeth ond mae mwy o sicrwydd i'r ariannu a'r dyfodol yn bwysig."

Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod nhw yn cefnogi dros gant a hanner o glybiau, elusennau a sefydliadau bob blwyddyn i ddarparu gweithgareddau am ddim neu gost isel dros fisoedd yr haf a'r gaeaf.

Mae'r Cyngor yn dweud bod Surfability wedi derbyn cyfran o fwy na hanner miliwn o bunnoedd o gyllid ar gyfer gweithgareddau.

Mae'r elusen, bellach, yn apelio am gefnogaeth nid yn unig ar gyfer dyfodol ei hun ond i sicrhau bod gan bawb y gallu i fwynhau mawredd y mor.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.