Rhybudd y gall 236,000 yn rhagor farw o Covid-19 yn Ewrop erbyn mis Rhagfyr

Al Jazeera 30/08/2021
Ysbyty yn brwydro yn erbyn Covid-19

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi rhybuddio y gall 236,000 yn rhagor o bobl farw o Covid-19 yn Ewrop erbyn mis Rhagfyr.

Mae gwledydd ledled y rhanbarth wedi gweld cyfraddau o'r haint yn codi wrth i'r amrywiolyn Delta gydio, yn enwedig ymhlith y rhai sydd heb eu brechu.

Ddydd Llun, fe ddywedodd cyfarwyddwr WHO Ewrop, Hans Kluge: "Wythnos diwethaf, roedd cynnydd o 11% yn nifer y marwolaethau yn y rhanbarth - mae un rhagdybiaeth ddibynadwy yn disgwyl 236,000 o farwolaethau yn Ewrop erbyn 1 Rhagfyr.”

Mae Ewrop wedi cofnodi tua 1.3m o farwolaethau Covid-19 hyd yn hyn, a 64m achos o'r haint, yn ôl Al Jazeera.

O blith 53 aelod-wladwriaeth WHO Ewrop, mae 33 wedi cofrestru cyfradd achosion sy’n fwy na 10% yn ystod y pythefnos diwethaf, yn ôl Mr Kluge.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.