Dyn 29 oed yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio

Mae dyn 29 oed wedi ymddangos o flaen llys ynadon yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gyn-wraig.
Mae Russell Marsh o Ffordd Chevrons, Shotton wedi ei gyhuddo o lofruddio Jade Marsh, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward, oedd yn 27 oed.
Cafodd swyddogion eu galw i ddigwyddiad mewn eiddo yn y dref ychydig wedi 9:20 fore Iau, gyda'r fam i bedwar wedi ei darganfod yn farw.
Siaradodd Russell Marsh ond i gadarnhau ei enw, cyfeiriad a'i ddyddiad geni yn ystod y gwrandawiad.
Dywed North Wales Live y bydd Mr Marsh yn parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google