Tâl i dwristiaid i weld Ffynnon Trevi yn Rhufain
Fe fydd twristiaid sydd am weld Ffynnon Trevi yn Rhufain yn gorfod talu dau ewro (£1.73) am y fraint o ddydd Sul ymlaen.
Mae’r awdurdodau yno wedi cyflwyno’r tâl fel rhan o gynllun i reoli llif twristiaid a’r effaith ar atyniadau hanesyddol y ddinas hynafol.
Fe wnaeth tua naw miliwn o bobl ymweld â’r ffynnon yn y ddinas llynedd ac mae amcangyfrif y bydd y tâl yn cyfrannu dros 6.5 miliwn ewro'r flwyddyn i goffrau’r ddinas.
Ers misoedd, mae'r ardal o amgylch y ffynnon wedi bod dan reolaethau i gyfyngu nifer y bobl i uchafswm o 400 ar unrhyw un adeg.
Nawr, fel rhan o fesurau newydd, bydd dwy lôn fynediad ar wahân yn cael eu trefnu, un ar gyfer trigolion y ddinas fydd yn cael mynediad am ddim, ac un arall ar gyfer twristiaid a fydd yn gallu talu am eu tocynnau gyda chardiau credyd.
Fe fydd plant o dan bump oed a phobl gydag anableddau hefyd yn cael mynediad am ddim.
Mae’r ffynnon yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Rhufain gyda thwristiaid yn taflu darnau arian i mewn i’r dŵr gan obeithio bod y weithred yn dod a lwc iddyn nhw.
Er bod yr arian hwn yn cael eu rhoi i elusen, bydd y ffioedd a gesglir yn mynd i awdurdod y ddinas i dalu am gynnal a chadw a rheoli ymwelwyr.
Dywedodd Maer Rhufain Roberto Gualtieri: "Nid yw dau ewro yn llawer iawn ... a bydd yn arwain at lif twristiaid llai anhrefnus".
Mae’r tâl yn rhan o system tariff newydd ar gyfer rhai amgueddfeydd a henebion ym mhrifddinas yr Eidal.
Fe fydd twristiaid yn dal i allu gweld y ffynnon - a adeiladwyd gan y pensaer Eidalaidd Nicola Salvi yn y 18fed Ganrif - am ddim o bell.
Llun: Visit Rome
