Prinder bwydydd Cymreig ar fwydlenni ysgolion
28/01/2026
Prinder bwydydd Cymreig ar fwydlenni ysgolion
Ers 2024, mae hawl gan blant cynradd Cymru gael prydau ysgol rhad ac am ddim.
Ond ma Cynghrair Cefn Gwlad yn grac bod y cyw iar yn y prydau yn aml yn dod o wledydd ymhell tu hwnt i Ewrop.
"Dw i ddim yn teimlo'n hyderus o gwbl bod y cig sy'n dod mewn o lefydd fel Gwlad Thai, Brasil a Tsieina lan i safon cynhyrchwyr ni.
"Dw i ddim yn credu bod e'n gallu cario 'mlaen.
"Mae Llywodraeth Cymru yn twlu arian at bethe eraill a dylen nhw dwlu'r arian 'na at ein plant ni.
"Os ni'n moyn nhw ddysgu'n dda, mae'n rhaid bwyta'n dda.
"Sa i'n credu bod nhw ar y foment."
Mae'r ffigyrau yn amrywio yn fawr drwy'r wlad.
Er bod dim un awdurdod o'r 19 na'th ymateb yn gallu dweud pa ganran o'r cyw iar yn eu prydau ysgol sy'n dod o Gymru Sir Fon a Phen-y-bont oedd yr unig ddau gyngor i ddweud bod eu holl gyw iar mewn prydau ysgol yn dod o'r Deyrnas Unedig.
Ym Merthyr Tudful, ma 99% o'r cyw iar mewn prydau ysgol yn dod o du hwnt i'r Undeb Ewropeaidd.
94% yw'r ffigwr yng Nghonwy.
Er i Gaerffili nodi ffigwr o 87%, maen nhw'n dweud nad oes unrhyw gyw iar o du fas i'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio mewn prydau ysgol o fis Medi llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Merthyr Tudful eu bod yn gweithio gyda darparwyr lleol ar gyfer y cynnyrch yn eu hysgolion tra bod cyngor Conwy yn dweud eu bod yn dilyn dull rhagweithiol o ran defnyddio cynnyrch Cymreig ar gyfer prydau ysgol yn gynaliadwy ac yn darparu gwerth gorau.
Ond ar ei fferm yn Nyffryn Conwy, mae Hefin Jones, sy'n dad i dri yn gegrwth bod 94% o'r cyw iar ym mhrydau ysgol ei blant a gweddill y sir yn dod o wledydd fel Brasil a Gwlad Thai.
"Mae'n gwylltio fi'n meddwl bod nhw'n cael bwyd o mor bell pan mae gynnon ni ffermwyr arbennig yng Nghymru sy'n defnyddio porfa las a thir
o safon ac yn cadw teuluoedd yma ac maen nhw'n mynd i helpu busnesau tramor yn lle rhai sydd rownd eu traed nhw adra."
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i gynyddu'r defnydd o fwyd Cymreig sydd wedi cynhyrchu'n lleol
mewn ysgolion.
Ein huchelgais yw rhoi hwb o 50% i wariant y sector cyhoeddus ar fwyd o Gymru erbyn 2030, meddai ei datganiad gan ddweud hefyd ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr i fyrhau cadwyni cyflenwi lleihau milltiroedd bwyd a chefnogi tyfwyr ffermwyr a gweithgynhyrchwyr Cymru.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru newid y fframwaith i sicrhau bod ni'n gallu rhoi bwyd Prydeinig ar blatiau ein plant.
"Ni hefyd yn gofyn am adroddiad blynyddol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fel bod ni, rhieni a ffermwyr yn gallu gweld o ble mae bwyd
yn dod i gael trafodaeth onest am beth ni'n bwydo plant ni."
Gydag etholiadau i'r Senedd yn agosau a fydd diwygio prydau ysgol ar y fwydlen i etholwyr ym mis Mai?
