Medal aur gyntaf i Gymro yng Ngemau Paralympaidd Tokyo

29/08/2021
Jim Roberts

Mae Cymro wedi ennill medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Dyma'r Cymro cyntaf i ennill medal aur yng Ngemau Paralympaidd 2020.

Roedd Jim Roberts, o'r Trallwng, yn rhan o garfan rygbi cadair olwyn Prydain Fawr.

Dyma hefyd oedd medal gyntaf Team GB yn y rygbi cadair olwyn erioed.

Enillodd y garfan o 54-49 yn erbyn yr UDA yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Roedd Roberts yn athletwr brwd gan gystadlu mewn rygbi a sboncen ar ran ei brifysgol.

Ond yn ystod ei amser yn y brifysgol, fe ddatblygodd llid yr ymennydd.

Wedi cyfnod hir yn yr ysbyty, a cholli ei ddwy goes, cafodd Roberts ei gyflyno i rygbi cadair olwyn gan nwrs. 

Mae cyflawniad Roberts a'r garfan yn ychwanegu at nifer o fedalau sydd eisoes wedi eu hennill gan Gymry yn Tokyo.

Ddydd Sadwrn, fe enillodd Paul Karabardak a Tom Matthews fedalau efydd yn y tennis fwrdd paralympaidd.

Fe enillodd y Cymro James Ball fedal arian yn y treial amser 1000m.

Bydd nifer yn fwy o Gymry yn cystadlu am fedalau yn y Gemau Paralympaidd cyn i'r Gemau ddod i ben ar 4 Medi.

Llun: ParalympicsGB

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.