UDA yn cynnal ymosodiad drôn yn Afghanistan gan ladd 'cynllunydd' ISIS
Mae byddin yr UDA wedi lladd "cynllunydd" ar ran y Wladwriaeth Islamaidd mewn ymateb i'r ymosodiad ym maes awyr Kabul, Afghanistan ddydd Iau.
Dywedodd y Capten Bill Urban, llefarydd ar ran Awdurdod Canolog Unol Daleithiau'r America, fod byddin yr UDA wedi cynnal ymosodiad drôn yn erbyn aelod o'r Wladwriaeth Islamaidd yn nhalaith Nangahar sy'n rhannu ffin gyda Pakistan.
Cafodd un person ei ladd yn yr ymosodiad ac nid oedd y fyddin yn ymwybodol o unrhyw sifiliaid a gafodd eu lladd, dywedodd.
Daeth yr ymosodiad wedi i ddau hunan-fomiwr o'r grŵp ISIS-K, rhan o'r Wladwriaeth Islamaidd, ffrwydro dyfeisiadau ger maes awyr Kabul gan ladd rhwng 92 a 169 o ddinasyddion Afghanistan, 13 o swyddogion milwrol UDA, a dau ddinesydd Prydeinig, yn ôl Sky News.
Darllenwch am y datblygiad diweddaraf yma.
Llun: Byddin yr UDA