O Eryri i Awstralia: Gweithio gyda rhai o seiclwyr gorau’r byd
Mae gŵr o Wynedd yn paratoi i symud i ben draw’r byd ar ôl derbyn swydd i weithio gyda seiclwyr gorau Awstralia.
Ers pum mlynedd mae Rhys Llywelyn, sydd yn wreiddiol o Ddeiniolen, wedi bod yn teithio i bedwar ban byd fel dadansoddwr perfformiad i dîm seiclo Prydain.
Yn gweithio gyda rhai o sêr amlyca’r gamp, gan gynnwys y Cymry, Emma Finucane, Elinor Barker a Josh Tarling, dadansoddi perfformiad yr athletwyr yw prif gyfrifoldeb Rhys, er mwyn eu helpu i ennill rasys yn y felodrom.
“Mae o’n rili niche o job,” meddai Rhys wrth Newyddion S4C.
“Ond mae gan ti performance analyst yn bob math o chwaraeon, enwedig yn ffwtbol.
“Job fi ydi edrych ar data o ddydd i ddydd, be mae’r athletwyr yn neud yn ddyddiol a sbïo i’r dyfodol a sut da ni’n gallu gwella, fatha edrych ymlaen at yr Olympics nesa a deud fel esiampl, os tisho ennill medal mae angan i ni gosod yr amsar yma.
“Mae ‘na lot o rifau ond mae’n siwtio brain fi yn sbïo ar numbers drwy dydd a gweithio efo athletes bob dydd.”
Wrth weithio fel rhan o dîm Seiclo Prydain, roedd Rhys yn dilyn olion troed un o frodorion enwocaf Deiniolen, Syr David Brailsford, oedd yn bennaeth ar y tîm tan 2014, gan gynnwys cyfnod euraidd y Gemau Olympaidd 2008 a 2012.
Fe ymunodd Rhys â’r tîm yn 2020, ac mae’n dweud ei fod yn falch o’r profiadau mae wedi eu cael dros y pum mlynedd diwethaf.
“Yr uchafbwynt mwya’ amlwg oedd y Gemau Olympaidd yn Paris yn 2024. Odd hwnna’n rwbath rili da i fod yn rhan ohono fo.
“Dwi di bod mewn pum Pencampwriaeth y Byd ar y trac, mae di mynd a fi i Awstralia, Hong Kong, Canada, Chile, so dwi di trafeilio’r byd efo’r swydd so maeo di bod yn rili da i fi.
“Mae’n ddipyn o brofiad cael gweithio efo’r athletes hefyd. Oni’n gweithio efo Emma Finucane bob dydd, da ni’n eitha agos - mae hi’n gymeriad!
“Ti’n clywad am British Cycling a pawb yn deud bod o’n le hudolus, ac yn y dechra’ mae o, ond fel unrhyw job y mwya’ ti’n aros yna, y mwya normalised mae o’n dod. Ond pan ti’n camu nôl a sbïo arno fo, mae o’n le rili cŵl i weithio.”
Ar ôl pum mlynedd yn gweithio ym mhencadlys y tîm ym Manceinion, fe gafodd Rhys wybod am swydd gyda thîm cenedlaethol Awstralia.
Wedi ymgeisio a chael cynnig y swydd, fe benderfynodd y gŵr 29 oed i dderbyn y cynnig - ar ôl ychydig o bendroni.
“Oni’m yn meddwl swn i’n gadael lle ydw i rŵan, ond pan gesh i cynnig y swydd, wedyn oedd rhaid meddwl amdano fo’n iawn llu, yn meddwl be dyla fi neud.
“Mae 'na fwy o opportunities o’r rhan datblygu fy hun a’r cam nesa’ yn fy ngyrfa. Dyna pam nesh i gymud y swydd. Cha’ i’m cyfle fel ‘ma eto, felly on i’n meddwl, pam ddim.
“Fyddai dal yn 'neud yr un peth yn y swydd newydd, ella dipyn bach mwy efo beicio mynydd a beicio ffordd hefyd. Ond fydda’i dal i weld yr un bobol lle dwi’n mynd rŵan, just efo t-shirt gwahanol.”
Gyda’r Gemau Olympaidd yn Brisbane yn 2032, mae Rhys yn dweud ei fod yn gobeithio aros yno tan hynny.
Ac er na fydd yn symud tan fis Mawrth, mae’n dweud bod ei rieni yn edrych ymlaen i ymweld ag e yn Awstralia yn barod.
“Mae gen i gwpwl o fisoedd o ddeud ta-ta i bawb adra.
“Mae’r rhan fwya' o gystadlaethau yn Ewrop eniwe, so dwi’n siŵr ga’i gyfle i biciad adra’n sydyn ella.
“Ond hyd yn oed yn byw dwy awr i ffwrdd yn Bolton, mi fysa mam yn cwyno bo fi byth yn dod adra. Ond ar ôl i fi symud rŵan, fydd o’n esgus i nhw ddod ata fi!”