Dau unigolyn a phlentyn person o Brydain wedi marw yn ffrwydrad Kabul

Mae dau unigolyn o Brydain a phlentyn person arall o Brydain ymhlith y bobl fu farw tu allan i faes awyr Kabul, Afghanistan ddydd Iau.
Roedd y tri dioddefwr o deuluoedd gwahanol. Roeddent yn aros y tu allan i’r maes awyr yn ceisio ffoi o Afghanistan yn dilyn meddiant y Taliban yn gynharach y mis hwn.
Bu farw oddeutu 95 o bobl o Afghanistan, a 13 o filwyr yr Unol Daleithiau yn dilyn y ffrwydrad. Mae ISIS-K yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab: “Roeddwn yn drist iawn o glywed bod dau o ddinasyddion Prydain a phlentyn person arall o Brydain wedi cael eu lladd gan yr ymosodiad terfysgol ddoe, gyda dau arall wedi’u hanafu.”
Darllenwch y diweddaraf yma.