S4C yn 'cyflwyno newid cyffrous' i'r ffordd o wylio Pobol y Cwm a Rownd a Rownd
Mae S4C wedi "cyflwyno newid cyffrous" sydd yn golygu bod modd gwylio penodau Pobol y Cwm a Rownd a Rownd cyn iddyn nhw gael eu darlledu ar deledu.
O ddydd Mawrth fe fydd penodau’r operau sebon ar gael i'w gwylio ar-lein cyn y darllediad ar y teledu.
Am 10:00 ar fore pob darllediad bydd penodau cyflawn o'r ddwy opera sebon ar gael ar-lein, a S4C Clic ac ar BBC iPlayer.
Ni fydd hyn ar gyfer pob pennod, gyda "rhai penodau arbennig sy'n cynnwys straeon mawr" yn cael eu cadw ar gyfer y darllediad teledu.
Mae hyn er mwyn "osgoi unrhyw spoilers i ffans" meddai S4C.
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans bod y newid yma wedi cael ei wneud "mewn ymateb i newidiadau mewn arferion gwylio" cynulleidfa S4C.
"Rydym ni’n ymwybodol iawn bod arferion gwylio ein cynulleidfaoedd yn newid, ac er bod tipyn o wylio byw i Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ar eu darllediad cynta' ar deledu, mae'r ddwy sebon ymhlith y cyfresi mwya' poblogaidd ar S4C Clic a BBC iPlayer hefyd," meddai.
"Mae’r cam yma i’w gwneud nhw ar gael yn ddigidol yn gyntaf felly yn caniatau i’r gwylwyr i’w ffrydio a’u mwynhau pryd bynnag a ble bynnag mae’n gyfleus iddyn nhw.“
Ychwanegodd Branwen Williams, Uwch-Gynhyrchydd Pobol y Cwm: “Bydd cael Pobol y Cwm ar S4C Clic a BBC iPlayer ben bore yn golygu bydd ein ffans yn gallu cael eu ffics o ddrama wrth fwynhau eu tost a choffi. Mae'n rhoi'r pŵer iddyn nhw wylio pryd bynnag maen nhw eisiau.”
Mae Annes Wyn, un o gynhyrchwyr Rownd a Rownd yn croesawu'r newid.
“Da ni’n falch iawn o glywed am y datblygiad yma gan bod tipyn o’n gwylwyr yn gwylio arlein bellach.
"Mae hyn yn golygu y gallant wylio cyn ein hamser darlledu arferol, fel sy’n gyfleus iddyn nhw.”