Covid-19: Yr Alban yn cofnodi ei nifer uchaf o achosion dyddiol

Nicola Sturgeon
Mae'r awdurdodau yn yr Alban wedi cofnodi'r nifer uchaf o achosion dyddiol o goronafeirws yn y wlad ers dechrau'r pandemig - ond ni fydd y llywodraeth yn ystyried cyfnod clo byr arall am y tro.
Cafodd 6,835 o achosion newydd eu hadrodd ddydd Gwener medd The Scotsman, ac mae prif weinidog y wlad, Nicola Sturgeon wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "fregus".
Ychwanegodd nad oedd modd anwybyddu'r cynnydd sydyn mewn achosion ac fe alwodd ar bobl y wlad i wneud popeth o fewn eu gallu i atal ymlediad yr haint.
"Nid wyf am ddychwelyd i gyfyngiadau", meddai mewn cynhadledd i'r wasg wrth drafod y sefyllfa ddiweddaraf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.