Rhagor o rybuddion tywydd wedi eira yn ystod penwythnos cyntaf y Flwyddyn Newydd
Mae rhagor o rybuddion tywydd wedi cael eu cyhoeddi ar ôl i rannau o Gymru gael eu taro gan fwy o eira dros nos yn ystod penwythnos cyntaf y Flwyddyn Newydd.
Mae sawl rhybudd tywydd am rew ac eira mewn grym dros y dyddiau nesaf gan effeithio ar y rhan fwyaf o Gymru.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai nifer fawr o lefydd weld tua 1-3cm o eira ddydd Sadwrn ar ôl cawodydd dros nos.
Fe allai ardaloedd yn Eryri, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin gael eu taro gan "sawl centimer" o eira hefyd.
Dywedodd prif feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Rebekah Hicks ei bod yn parhau i annog pobl i fod yn wyliadwrus pe bai’n teithio yn sgil amodau gyrru peryglus.
“Bydd amodau eithriadol o oer yn parhau drwy’r penwythnos ac i mewn i’r wythnos nesaf, gyda thymheredd yn ystod y dydd yn ei chael hi’n anodd codi'n uwch na'r rhewbwynt i rai," meddai.
Mae’n bosib y gallai’r ffyrdd fod yn rhewllyd gan hefyd achosi oedi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Roedd oedi mawr ar yr A55 ger Cyffordd 10 Bangor ddydd Gwener oherwydd rhew ac eira.
Roedd Heddlu’r Gogledd hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi derbyn nifer o alwadau yn adrodd gwrthdrawiadau ym Mangor, Caernarfon ac ar Ynys Môn.
Fe ddaeth rhybudd tywydd am rew ac eira i ben am 10.00 fore ddydd Sadwrn ond fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd am rew o 16:00 ddydd Sadwrn tan 12:00 ddydd Sul.
Ond fe fydd rhybudd arall am rew ac eira yn dod i rym brynhawn ddydd Sul, rhwng 15.00 a 12.00 ddydd Llun.
Ac fe fydd rhybudd pellach am rew ac eira hefyd yn dod i rym rhwng 12.00 ddydd Llun a 11.00 fore Mawrth.
Rhybuddion
Bydd y siroedd isod yn cael eu heffeithio gan y rhybudd tywydd am rew ddydd Sadwrn:
- Abertawe
- Bro Morgannwg
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Sir Gaerfyrddin
- Wrecsam
- Ynys Môn
Fe fydd y rhybudd am rew sydd yn dod i rym ddydd Sul yn effeithio ar bob un o'r siroedd uchod.
Bydd y rhybudd am rew ac eira yn effeithio ar bob sir yng Nghymru ddydd Sul.
Prif lun: Hirwaun, Rhondda Cynon Taf ar fore ddydd Sadwrn